UWB Crest

Astudio ym Mangor

Canllawiau i rieni a gwarcheidwaid

Delwedd o ddarpar fyfyriwr a'i rieni mewn Diwrnod Agored

Fel rhiant neu warcheidwad, mae’n bosibl y bydd y cwestiynau a’r pryderon sydd gennych chi ychydig yn wahanol i’r rhai sydd gan eich mab/merch.

Rydym ni o’r farn fod gan Fangor fanteision dros lawer o ddinasoedd eraill sydd â phrifysgol.

Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ansawdd addysg a gynigir ym Mangor. Mae mwy na hanner yr adrannau ym Mangor wedi derbyn graddfa ‘ragorol’ am ansawdd addysgu, ac mae perfformiad y Brifysgol yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yn cadarnhau statws Bangor fel sefydliad ymchwil penigamp.

Enwyd Bangor yn un o grwp bach o brifysgolion ‘mynediad ‘elite’ yn y Times Higher, a hynny’n adlewyrchu rhagoriaeth Bangor o ran addysgu ac ymchwil, ein llwyddiant i ddenu myfyrwyr o bob cefndir ac, yn bwysicach fyth, ein llwyddiant o ran cadw’r myfyrwyr hynny.

Daeth Bangor ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement.