UWB Crest

Astudio ym Mangor

Datblygu gyrfa

Delwedd o dri myfyrwir yn edrych ar sgrin cyfrifiadur

Rydym eisiau eich gweld yn llwyddo

Rydym angen gwneud yn siwr y cewch y cyfleoedd gorau am lwyddiant wedi i chi raddio, dyna pam fod ein Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU.

Y JobZone

Swyddfa i helpu myfyrwyr ddod o hyd i swyddi yw’r JobZone, boed nhw’n swyddi rhan-amser, achlysurol neu’n swyddi parhaol i raddedigion. Mae’r JobZone yn hysbysebu swyddi yn ystod y gwyliau a swyddi parhaol i raddedigion, sy’n amrywio o ogledd Cymru i gyfleoedd ar draws y byd. Mae’r mynediad i’r rhwydwaith a’r tîm o staff arbenigol yn cynnig gwasanaeth gwych i’n holl fyfyrwyr sy’n chwilio am waith.

Profiad Gwaith

Mae profiad gwaith yn ffactor hanfodol i gyflogwr wrth recriwtio staff. Yma ym Mangor rydym yn cydnabod hyn drwy roi cyngor a gwybodaeth i chi am amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a’r gwyliau. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig rhaglen Lleoliad Gwaith uchel ei pharch o’r enw ‘Go Wales’ sy’n rhoi’r cyfle i chi gael profiad gwaith â thâl. mwy

Arweinwyr Cyfoed a gwaith gwirfoddol

Bob blwyddyn mae tua 1500 o fyfyrwyr ym Mangor yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gynlluniau gwirfoddol. Mae’r rhain yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â chael hwyl a chyfrannu at y gymuned leol.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnal y Cynllun Arweinwyr Cyfoed, lle mae rhai o fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn cael eu hyfforddi i gefnogi myfyrwyr newydd yn ystod eu hwythnosau cyntaf. mwy

Rhithwasanaeth gyrfaoedd

Weithiau nid oes gan fyfyrwyr amser i ddod i weld un o’n ymgynghorwyr gyrfaoedd felly rydym wedi creu ‘rhithwasanaeth gyrfaoedd’ sy’n cynnig mynediad 24 awr at gyngor gyrfaoedd a chyflogaeth drwy rwydwaith cyfrifiadur y Brifysgol, ac mae’n dal modiwlau ar-lein hefyd a chysylltiadau at gyfleoedd cyflogaeth a phrofiad gwaith byd-eang.

Safle Swyddi a Hyfforddi Hobsons i Raddedigion (GET)

Mae hefyd yn bosib i chi chwilio am gyflogwyr, swyddi, profiad gwaith neu hyfforddiant proffesiynol ar Safle Swyddi a Hyfforddi Hobsons i Raddedigion.