Tudalennau Perthnasol...
Mwy o wybodaeth...
Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Hefyd, mae gennym gronfeydd data, fideos a CDs; defnydd micro ffurf a chyfleusterau argraffu; casgliad arbennig o lawysgrifau a chatalogau ar-lein i gael mynediad at e-lyfrau, cylchgronau electronig, hen bapurau arholiad, canllawiau i bynciau ac amryw o adnoddau dysgu eraill.
Mae gennym ni
- Y Brif Lyfrgell sy’n cynnwys deunydd am y celfyddydau, y dyniaethau a gwyddorau cymdeithas, yn cynnwys seicoleg. Mae hefyd yn cynnwys y Llyfrgell Gymraeg, casgliad arbennig a’r Adran Archifau a Llawysgrifau
- Llyfrgell Adeilad Deiniol sy’n cynnwys y prif gasgliadau o gyfnodolion gwyddonol, crynodebau, cyfeiriadau ac ysgrifau
- Llyfrgell Wolfson sy’n cynnwys deunydd am eigioneg a bioleg
y môr
- Llyfrgell Cerddoriaeth ar Ffordd y Coleg sy'n cefnogi'r Ysgol Cerddoriaeth
- Llyfrgell Safle’r Normal sy’n cynnwys deunydd am addysg, yn cynnwys casgliadau o lyfrau plant, a gwyddorau’r chwaraeon, iechyd ac ymarfer
- Y Llyfrgell Astudiaethau Iechyd, Bangor, sy’n cefnogi nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd
- Y Llyfrgell Astudiaethau Iechyd, Wrecsam sy’n cefnogi nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg ac iechyd
- Gwasanaethau llyfrgell ar-lein sy’n cynnwys e-lyfrau, cylchgronau electronig, cronfeydd data, hen bapurau arholiad a chanllawiau i bynciau