Astudio ym Mangor
Rhai awgrymiadau i rieni

Tudalennau Perthnasol...
Mwy o wybodaeth...
- Dewch fel teulu i un o’n Diwrnodau Agored i chi gael cyfle i weld dros eich hunain beth sydd gan Fangor i’w gynnig
- Cysylltwch â’ch Awdurdod Addysg Lleol cyn gynted ag y bydd eich mab/merch yn cael cynnig lle, er mwyn gwneud cais am gymorth tuag at daliadau hyfforddi
- Gofalwch eich bod yn llenwi’r ffurflen asesu a gewch gan yr Awdurdod Addysg Lleol, ac yn ei hanfon yn ôl cyn gynted ag y bo modd
- Anogwch eich mab/merch i agor cyfrif banc cyn cychwyn yn y Brifysgol
- Sicrhewch fod gan eich mab/merch rywfaint o arian yn ei g/chyfrif ar ddechrau’r tymor, rhag ofn bod oedi, am unrhyw reswm, cyn iddo/iddi dderbyn ei siec benthyciad
- Sicrhewch ei bod/fod yn dod â digon o luniau pasport – gan y bydd eu hangen ar gyfer pob math o gardiau aelodaeth a ffurflenni yn ystod Wythnos y Glas
- Bydd datgelu anabledd, dyslecsia, neu anhawster iechyd meddwl, yn fuan yn gymorth inni ddechrau cynllunio ar gyfer unrhyw ofynion cynhaliol y bydd eu hangen ar eich mab/merch