Dyfodol gwell ar y gweill
Blog gan Dr Einir Young (Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd)
Croeso i Fangor i’r rhai sy’n dechrau’r daith drwy’r Brifysgol a chroeso yn ôl i bawb arall.
Roeddwn am daro nodyn sydyn i ddweud ‘helo’ yn ystod wythnos lawn gynta’r tymor i ofyn i chi roi’ch bys ar y botwm ‘saib’ am eiliad i ystyried cynaliadwyedd a lles.
Hoffwn i chi gofio pedwar peth (am y tro!)
- Mae Prifysgol Bangor yn rhoi pwys mawr ar fod yn gynaliadwy ac mae cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth a wnawn yma.
- Sefydlwyd tîm y Lab Cynaliadwyedd yma i gydweithio gyda chi gyd ar draws y campws.
- Wrth gwrs fod Cynaliadwyedd yn rhoi pwys mawr ar fod yn ‘wyrdd’ ond mae llesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl a’u cymunedau yn hanfodol hefyd. Caiff hyn ei ddisgrifio yng Nghymru fel ein llesiant ni a llesiant cenedlaethau’r dyfodol
- Mae bod yn gynaliadwy’n her leol a rhyngwladol. Rydym fel Prifysgol yn deulu o ddinasyddion byd-eang o bob cwr o’r byd ac yn cyfrannu hyd eithaf ein gallu tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy Cenhedloedd Unedig.
Yn ystod y flwyddyn academaidd sy’n dod bydd y Lab Cynaliadwyedd yn taclo heriau mawr GYDA chi (sylwch - ydym ni ddim yma i wneud dim byd DROS neb nac i neb!). Felly, edrychwn ymlaen at glywed eich barn ac ymateb i’ch pryderon yn ein sesiynau ‘Rhoi’r Byd yn ei Le’ sy’n cyfarfod yn fisol ac i weithio GYDA chi i wireddu’ch syniadau a datblygu ymgyrchoedd ar bethau sy’n bwysig i chi - #WAW19 yw’r digwyddiad cyntaf.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a da chi, YMUNWCH Â NI
Gan ddymuno blwyddyn wych i bawb – beth bynnag fo’r tywydd!
Gwyliwch:
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2019