Undebau Llafur
Cymryd rhan
Rydym yn annog cynrychiolwyr undebau llafur i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar Gynaliadwyedd@Bangor ac mae gennym berthynas waith ardderchog gydag uwch swyddogion a chynrychiolwyr pob undeb gydnabyddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Codi mater cynaliadwyedd yn Fforwm Undebau’r Campws
Mae Fforwm Undeb Campws, dan gadeiryddiaeth yr Is-ganghellor, yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn a thrafodir materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a llesiant yn ôl yr angen. Rydym yn annog yr holl Undebau i ddod â materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd i’n sylw yn y cyfarfod hwn.
Gellwch gael rhagor o wybodaeth am undebau llafur cydnabyddedig Bangor
Undebau Llafur a Phwyllgorau'r Brifysgol
Mae cynrychiolwyr o'r Undebau Lafur yn eistedd ar ystod eang o Bwyllgorau'r Brifysgol, megis Pwyllgor Iechyd a Diogelwch a Grŵp Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.