UWB Crest

Fideos, teithiau a lluniau

Mapiau

Lleoliad a chyfarwyddiadau

Mae dinas Bangor yn gorwedd rhwng y Fenai a Parc Cenedlaethol Eryri.


View Larger Map and get directions

Map o Fangor

Cliciwch i lawrlwytho map o Fangor (PDF).

Cyfarwyddiadau teithio

Mae ein map rhyngweithiol (gan Google map) yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Bangor, gan ddefnyddio eich cod post fel man cychwyn. Gallwch dynu allan o'r map i weld yn union lle mae Prifysgol Bangor.

Os oes gennych system 'Sat Nav', defnyddiwch y cod post LL57 2UW er mwyn cyrraedd adeilad Deiniol yng nghanol y ddinas (adeilad 47 ar ein map o Fangor).

Mewn car...

Gallwch dynu allan o'r map lleoliad rhyngweithiol hwn (sydd wedi ei ddarparu gan Google map ) i weld yn union lle mae Prifysgol Bangor. Gallwch ei ddefnyddio i gynllunio eich taith.

Ar y tren...

Ewch i wefan National Rail neu Traveline Cymru am amserlenni i orsaf Bangor.

Ar y bws...

Mae nifer o wasanaethau yn rhedeg yn gyson i Fangor. Os ydych am deithio ar y bws, ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio'ch taith neu ffoniwch 0871 200 22 33.

Traws Cambria - www.trawscambria.info

Maes Awyr Ynys Môn

Mae gan Maes Awyr Ynys Môn hedfaniadau rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Ynys Môn. Ewch i www.maesawyrmon.com am fwy o fanylion.