Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Croeso i’r Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Yr ydym yn Adran gydag enw ardderchog am ddysgu, ymchwil a gofalu am ein myfyrwyr. Yn nhablau cynghrair diweddar y Times a’r Sunday Times gosodwyd ni yn y deg uchaf o adrannu Diwinyddiaeth Prydeinig, gan nodi fod ein graddedigion yn llwyddo’n dda i gael gwaith yn syth. Yr ydym yn falch iawn o hynny.
Bydd y tudalennau a ganlyn yn disgrifio’r gwahanol gyrsiau sy'n cael eu cynnig gennym, yn rhestru arbenigedd y staff dysgu ac yn esbonio natur ein gwaith yn gyffredinol.
Croeso i chwi gymryd eich amser i bori trwy'r tudalennau hyn a theimlwch yn rhydd i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth neu i drefnu i alw heibio.