School of Theology and Religious Studies
Dyma’r astudiaeth gyntaf o fywyd a gwaith un o feddylwyr hynotaf ei genhedlaeth, sef y diwinydd o Gwm Cynon, R.S.Thomas. Yn gyfoeswr ag Emrys ap Iwan ac O M Edwards, cyfrannodd yn helaeth i’r meddwl Cristionogol Cymraeg gan lunio corff o lenyddiaeth sydd gyda’r mwyaf swmpus, o’i fath, erioed. Yn löwr yn wyth oed, treuliodd ddegawdau ym mhyllau glo Morgannwg a Pennsylvania cyn ymrestru yn fyfyriwr yn Athrofa Princeton, New Jersey. Ef, yn anad neb, a gynrychiolodd ‘Ddiwinyddiaeth Princeton’ yng Nghymru; ef hefyd oedd diwinydd mwyaf dysgedig ei oes. ‘Yr oedd holl adnoddau dogmatydd meistrolgar ganddo’, yn ôl R Tudur Jones, ‘catholigrwydd diddordeb, gwybodaeth drylwyr o’r maes, tegwch meddwl … ac angerdd ysbrydol’. Mae ei fywyd yn dyst o’r egni deallusol a nodweddodd y Gymru Ymneilltuol yn ei hoes aur.
ISBN: 1-904845-30-4
Bangor
Canolfan Uwchefrydiau Crefydd yng Nghymru
2005