School of Theology and Religious Studies

Nid oes amheuaeth i Pennar Davies chwarae rhan bwysig yn natblygiadau llên, diwylliant a chrefydd Cymru yr ugeinfed ganrif. Yn ŵr anarferol o ddysgedig ac eithriadol o ddisglair, cyfunai ddisgyblaethau’r nofelwr, y bardd, y beirniad llenyddol, yr hanesydd a’r diwinydd, gan feddu ar bersonoliaeth gyfareddol os enigmatig, hefyd. Os gallai groesi ffiniau rhwng disgyblaethau creadigol ac academaidd, croesai hefyd y ffin rhwng cymuned ddi-Gymraeg cymoedd ei fagwraeth a’r byd Cymraeg a gysegrodd flynyddoedd meithion ei aeddfedrwydd i’w wasanaethu. Roedd cyfuniad ei ddoniau a natur ei weledigaeth yn ei wneud yn ffigwr unigryw yn ein llenyddiaeth ddiweddar.
Rhagfyr 2003
ISBN 0-7083-1834-7