Byddwch yn astudio mewn Ysgol y dyfarnwyd y radd 'rhagorol' iddi yn yr asesiad ansawdd dysgu a gynhaliwyd ledled y Deyrnas unedig.
Gan fod gennym ddarlithwyr rhan amser sydd wedi arbenigo yn eu meysydd, gallwn gynnig amrywiaeth eang o fodiwlau ar destunau a phynciau yn ymwneud â'r Beibl, diwinyddiaeth Gristnogol, hanes yr Eglwys, diwinyddiaeth ymarefrol a chysylltiadau Iddewig/Gristnogol.
Mae'r modiwlau unigol yn adlewyrchu diddordebau ymchiwl aelodau'r Ysgol.
Mae'r Ysgol wedi bod yn flaenllaw ar hyd y blynyddoedd mewn dysgu'i chyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Prifysgol Bangor ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement, Mehefin 17, 2005
Wrth gymharu â phrifysgolion eraill drwy Brydain, mae gan Fangor un o’r systemau Arweinwyr Cyfoed mwyaf ac un o’r graddfeydd isaf o bobl sy’n rhoi'r gorau i'w cwrs.
Mae ein Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU
Mae llety a chostau byw yma yn rhatach o gymharu â chostau mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill. Yn ôl yr ‘A-Z of Universities and Higher Education Colleges’ papur newydd yr ‘Independent’, Bangor yw un o’r “llefydd rhataf ym Mhrydain” ar gyfer myfyrwyr.
Gwasanaethau ar-lein ‘BangorPortal’ i arbed amser i chi (pa fodiwlau ydw i’n eu hastudio? Beth yw fy marciau? etc)
Mae Bangor wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd Eryri ac afon Menai; mae’n debyg mai dyma’r lleoliad Prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae’n baradwys i fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn chwaraeon
Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n gallu sicrhau ystafell mewn Neuaddau Preswyl i holl israddedigion y flwyddyn gyntaf