Ble mae’r Llyfrgell Gymraeg?
Mae ystafell ddarllen y Llyfrgell Gymraeg yn cael ei hadnabod fel Ystafell Ddarllen Shankland. Mae hi ar ail lawr y Brif Lyfrgell.
Sut mae’r ystafell ddarllen wedi cael ei threfnu?
Mae’r adran gyfeirio wedi ei gosod yn y pum alcof gyntaf ar y naill ochr a’r llall i Shankland. Yna, mae’r Llyfrgell Gymraeg o’ch blaen. Mae’r adran gyfeirio Cymraeg yn cael ei chadw yn yr alcof gyntaf, gyda gweddill y casgliad Cymraeg wedyn.
Sut gallaf weld llyfr prin?
Os ydych eisiau edrych yn unrhyw eitem ymhlith y llyfrau prin a’r casgliadau arbennig, rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth ddesg y llyfrgell. Wedyn gellir gweld yr eitem yn yr Archifdy. (Cofiwch fod yr Archifdy yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 tan 1.00 a 2.00 tan 5.00)
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gasglu llyfr prin?
Bydd eitemau’n cael eu casglu a’u cludo i’r Archifdy ddwywaith y dydd. Os gofynnir cyn 10 a.m. i gael gweld eitem, bydd ar gael erbyn 11.30 a.m., a bydd eitemau y gofynnir amdanynt am 11 a.m. ar gael erbyn 2.30 a.m.
A allaf wneud llungopïau?
Gall y staff wneud llungopïau ar eich rhan yn unol â thelerau hawlfraint. Serch hynny, mae’r gwasanaeth yn dibynnu ar faint a chyflwr y deunydd.
Pris llungopïo yw 30c y dudalen i fyfyrwyr, a 35c y dudalen i rai sydd ddim yn fyfyrwyr