UWB Crest

Y Llyfrgell Gymraeg

Chwilio yn y casgliadau

Delwedd o gasgliad y Llyfrgell Gymraeg

Mae llyfrau a phamffledi yn y Llyfrgell Gymraeg wedi cael eu dosbarthu yn ôl cynllun dosbarthu’r casgliad ei hun. Fel gyda chynllun Llyfrgell y Gyngres a ddefnyddir mewn mannau eraill yn llyfrgell y coleg, mae’r cynllun hwn yn defnyddio nodiant sy’n cyfuno llythrennau (ar gyfer y prif ddosbarthiadau) a rhifau (ar gyfer is-ddosbarthu pellach). Ers mabwysiadu LC yn y Llyfrgell Gyffredinol, mae wedi dod yn arferiad i ragddodi holl rifau galw y Llyfrgell Gymraeg gyda’r llythyren ‘X’ wedi ei dilyn gan slaes letraws ‘/’ er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy system. Hefyd mae gan bob eitem nod lleoliad “PCB Cymraeg...”  

Dyma fraslun o system ddosbarthu y Llyfrgell Gymraeg.

X/GEN ~ Amrywiol, gan gynnwys llyfryddiaeth
X/A ~ Hanes a thopograffeg
X/B ~ Pynciau hanesyddol atodol (gan gynnwys calendrau llawysgrifau, astudiaethau o destunau cyfreithiol hynafol, herodraeth, llên gwerin ac yn y blaen.)
X/C ~ Bywgraffiadau
X/D ~ Yr Ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau
X/E ~ Crefydd
X/F ~ Athroniaeth, Seicoleg, yr Ocwlt
X/G ~ Addysg
X/H ~ Cyfraith Gyfansoddiadol, gwleidyddiaeth, llywodraeth
X/I   ~ Rhyfel a heddwch
X/J   ~ Amaethyddiaeth, Chwaraeon
X/K  ~ Economeg, masnach, diwydiant, trafnidiaeth
X/L   ~ Amgylchiadau cymdeithasol, a sefydliadau cymdeithasol
X/M  ~ Cerddoriaeth
X/N   ~ Meddygaeth, Hylendid, ac Iechyd Cyhoeddus
X/O   ~ Y Gwyddorau Naturiol
X/P    ~ Daearyddiaeth
X/Q    ~ Celf