UWB Crest

Yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg

Hafan yr Ysgol Astudiaethau trwy'r Gymraeg

prif adeilad

Cynhelir cyfarfod nesaf yr Ysgol/Cangen Bangor o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol brynhawn Mercher 2 Mai 2012 am 2.15 yn Ystafell y Cyngor.

Mae'r Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg yn rhan bwysig o Brifysgol Bangor. Gwaith yr Ysgol yw ceisio sicrhau bod nifer cynyddol o bynciau yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwn ymfalchïo fod dros 1400 o'n myfyrwyr bellach yn dilyn cwrs cyfan neu ran o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg..

Mae aelodau'r Ysgol yn llawn brwdfrydedd ac yn bwrw ati i ddadlau'r achos mewn pwyllgorau, yn targedu cyllid ar gyfer prosiectau ac yn sicrhau fod gwybodaeth ar gael am y modilwau a'r cyrsiau sydd ar gael drwy'r Gymraeg. Mae'r ysgol hefyd trwy'r Grwp Tasg Strategaeth yr Iaith Gymraeg (TASIG), yn awgrymu i Brifysgol Bangor pa feysydd y dylai'r Gymraeg ymestyn iddynt, ac yn cefnogi datblygiadau. Er enghraifft, gwelwyd datblygiadau diweddar mewn meysydd mor amrywiol ag Ieithoedd Modern a Chemeg.

Os ydych chi'n fyfyriwr newydd, mae'n braf eich cael chi ym Mangor. Os mai dyma'r tro cyntaf i chi edrych ar dudalennau gwe yr Ysgol, gobeithio y cewch chi wybodaeth ddefnyddiol yma.