UWB Crest

Yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg

Newyddion o'r Ysgol

Cyflwyniad gan Dr Ioan Matthews

Yng nghyfarfod diwethaf yr Ysgol, brynhawn Llun 23 Ebrill, estynnwyd croeso i Dr Ioan Matthews a Dr Dylan Phillips o'r Ganolfan Datblygu Addysg Gymraeg. Cafwyd cyflwyniad gan Dr Matthews yn amlinellu'r datblygiadau diweddaraf yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sector Addysg Uwch. Mae crynodeb o'i gyflwyniad i'w gael trwy glicio ar y ddolen isod.

Cyflwyniad Dr Ioan Matthews

24.04.07


Lansio Gwerddon

Cynhelir lansiad e-gyfnodolyn academaidd GWERDDON yn y Y Drwm, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, am 2.30 o'r gloch, ddydd Llun, 30ain Ebrill. Ceir anerchiad gan yr Athro Ioan Willams, golygydd GWERDDON ac fe fydd Cymrodor Ysgrifennu yr RLF, Elin Ap Hywel yn cyflwyno cerdd i ddathlu'r digwyddiad. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae cyfrol agoriadol GWERDDON yn cynnwys pedair erthygl ym meysydd Astudiaethau Perfformio, Ieithyddiaeth, Addysg a Hanes Cymru. Amcan y cyfnodolyn yw darparu fforwm ar gyfer trafodaeth academiadd traswddisgyblaethol o'r radd flaenaf yng Nghymru a chynnig cyfle i gyhoeddi gwaith ysgolheigaidd i academyddion ac awduron cyfrwng Cymraeg.

Fe fydd yr ail gyfrol yn dilyn cyn diwedd 2007.

16.04.07


Adolygu'r Taliadau Premiwm Cyfrwng Cymraeg

Mae CCAUC yn y broses o adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer taliadau premiwm cyfrwng Cymraeg. Fel rhan o'r broses honno, mae papur wedi'i ddosbarthu yn gwahodd sefydliadau i roi eu barn ar y gwahanol ddewisiadau sydd dan ystyriaeth. Mae croeso i aelodau o staff anfon unrhyw sylwadau sydd ganddynt at y Dirprwy Is-ganghellor Meri Huws.

16.01.07


Ail-drefnu Cyfarfod

Brynhawn Llun Mai 15fed am 2.15 yn Ystafell Gynhadledd yr Hen Goleg, cynhelir y cyfarfod a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer Ebrill 24ain. Yr un fydd yr agenda a'r eitem bwysicaf fydd 'Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn y Colegau Newydd'. Gobeithio y bydd modd i chi fod yn bresennol.

04.05.06


Gohirio Cyfarfod

Yn anffodus, oherwydd salwch, gohiriwyd y cyfarfod a oedd i'w gynnal brynhawn heddiw (Ebrill 24ain). Bwriedir ail-drefnu'r cyfarfod yn fuan.

24.04.06


Galwad am Erthyglau i Gwerddon

Mae panel golygyddol Gwerddon yn gwahodd erthyglau i'w cyhoeddi yn yr ail gyfrol. Bydd y gyfrol gyntaf yn ymddangos ym mis Hydref 2006 ac nid oes bellach le yn y gyfrol honno. Gwahoddir felly erthyglau rhwng 5-6000 o eiriau yn y Gymraeg ar bynciau sydd yn ymwneud â diddordebau ymchwil neu ag ymchwil unigolion perthnasol. Gellir cynnig erthyglau mewn unrhyw faes neu ddisgyblaeth academaidd heblaw'r rheiny y darperir ar eu cyfer gan gyfnodolion cyfredol cyfrwng Cymraeg sydd eisoes mewn bodolaeth. Bydd angen y deunydd i law erbyn 1af o Fedi 2006. Arfarnir a golygir yr erthyglau i gyd ac amcan y cyfnodolyn yw darparu cyfle i ysgolheigion sy'n dymuno cyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg rannu eu gwybodaeth a sefydlu maes trafod o'r safon uchaf posibl i drafod materion academaidd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cyfnodolyn yn fan i gyhoeddi gwaith academaidd yn y Gymraeg i safon a fydd yn digoni anghenion yr YAA (RAE) yn ogystal â chyfrannu at sefydlu fforwm ar gyfer trafod materion ymchwil yn y Gymraeg. Nid yw'n ofynnol i gyfranwyr fod yn gyflogedig mewn sefydliadau addysg Uwch yng Nghymru. Os hoffech gynnig neu drafod syniad ar gyfer erthygl i'w chyflwyno i'r cyfnodolyn, gallwch wneud hynny trwy e-bostio'r golygydd cynorthwyol aej@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621659.

07.04.06


Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf yr Ysgol ar 24 Ebrill 2006 am 2.15pm yn Ystafell y Cyngor.

06.03.06


Dydd Gwyl Dewi 2006

Mae'r ôl-raddedigion Cymraeg wedi trefnu cyfarfod anffurfiol i ddathlu Dydd Gwyl Dewi nos Fercher nesaf (y cyntaf o Fawrth) am 6 o'r gloch yn ystafell gyffredin myfyrwyr ôl-radd ac aeddfed yn yr anecs cerdd.

Bydd Yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth yr Adran Gymraeg yn rhoi sgwrs fer ar Dewi Sant a bydd lluniaeth ysgafn a gwin ar gael. Codir tal o £2 ar y drws. Croeso i bawb!

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Gwenith Hughes.

20.02.06