Ebrill 2007: Croesawu - a Ffarwelio
Bu’n wythnos o groesawu ac o ffarwelio ddiwedd Ebrill yn Ysgol y Gymraeg.
Ganol yr wythnos daeth ugain o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd draw i wrando ar Yr Athro Gerwyn Wiliams yn trafod nofel Mihangel Morgan, Dan Gadarn Goncrit. Roedd y disgyblion ar ymweliad â gogledd Cymru fel rhan o gwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn a drefnwyd gan un o’u hathrawon, Owain Siôn Williams, un o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg a enillodd Fedal Lenyddiaeth Gŵyl yr Urdd gyda’i nofel Bwli rai yn 2001. Cyflwynwyd y nofel honno fel rhan o gwrs MA mewn ysgrifennu creadigol.
Os wynebau newydd a welwyd ym Mangor ganol yr wythnos, at ddiwedd yr wythnos roedd hi’n bryd i un o wynebau mwyaf cyfarwydd Coridor yr Athrawon hongian ei ffedog am y tro olaf. Bu Mrs Jean Cross o Fethesda yn lanhawraig yn y Brifysgol ers ddeng mlynedd ar hugain: cyn i’r rhan fwyaf gyrraedd eu gwaith yn y bore, bu’n llafurio’n dawel yn y cefndir er mwyn gwneud yn siwr fod y peiriant yn rhedeg yn esmwyth. Bydd pawb a fu’n cydweithio â hi yn gweld eisiau ei gwên siriol a’i chymwynasgarwch parod ac wrth ddiolch iddi mewn cyfarfod anrhegu, dymunwyd yn dda iddi ar gyfer ymddeoliad hir, iach a thra haeddiannol.
Er mwyn darllen adolygiad ar Bwli gan Owain Siôn, cliciwch isod:
http://www.gwales.com/reviews/?isbn=9780903131230&tsid=4