UWB Crest

Ysgol y Gymraeg

Newyddion yr Ysgol

Delwedd o bapurau newydd

Mai 2012: Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl

Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith. Mwy...

Ebrill 2012: Ysgoloriaeth ar gyfer barddoni

Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Mwy...

Ionawr 2012:Awduron Cyfoes yn Ysgol y Gymraeg

Ar ddydd Mercher, Ionawr 25, daeth dau awdur cyfoes - un o Gymru a’r llall o Slofenia - i drafod eu gwaith gyda myfyrwyr Ysgol y Gymraeg. Mwy ...

Gorffennaf 2011: Athro o Ysgol y Gymraeg yn Lansio Dwy Gyfrol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Am hanner dydd brynhawn Llun, 1 Awst, ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, bydd yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg yn lansio dwy gyfrol newydd sbon.

Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) yw’r gyfrol greadigol gyntaf iddo ei chyhoeddi ers Tafarn Tawelwch yn 2003.  Mae’n cynnwys deunydd a ysgrifennwyd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, a’r cyfan yn seiliedig ar ystod o brofiadau a digwyddiadau. Darllen ymlaen... 

Mehefin 2011: Cyfleon gwych i fyfyrwyr sydd am wneud gwaith ymchwil

A ydych chwi'n dymuno astudio ar lefel ôl-raddedig? Y mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, yn cynnig nifer o ysgoloriaethau hael ar gyfer y rhai sydd am ddod atom i ddechrau astudio ar 1 Hydref 2011. Mwy o wybodaeth...

Mai 2011:Athro Cymraeg yn ymweld ag Ohio i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago

Gwahoddwyd yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan mewn cyfres bwysig o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Daleithiol Ohio er mwyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago ym 1611. Darllen ymlaen...

Ebrill 2011: Llyfr y Flwyddyn 2011

Mae nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011. Darllen ymlaen...

Mawrth 2011: Dau Nofelydd Blaenllaw yn Ysgol y Gymraeg

Yn ystod mis Mawrth daeth dau o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru i drafod eu gwaith yn Ysgol y Gymraeg. Darllen mwy ...

Mawrth 2011: Trafod nofelau'r Aifft yn Ysgol y Gymraeg

Gyda’r Aifft a nifer o wledydd Arabaidd eraill yn y newyddion ar y funud, mae’n amserol iawn bod Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith sydd yn awgrymu bod llwybr yr Aifft tuag at chwyldro i’w weld yn glir yn nofelau Eifftaidd y degawdau diweddar. Darllen ymlaen ...

Ionawr 2011: Moderniaeth a Lleiafrifoedd

Ar ddydd Iau, Ionawr 20 daeth ysgolheigion o sawl prifysgol ar draws Cymru at ei gilydd i drafod ‘Moderniaeth a lleiafrifoedd' . Darllen ymlaen ...

Ionawr 2011: CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant. Darllen ymlaen...

Tachwedd 2010: Llongyfarchiadau i Aelwyd John Morris-Jones!

Yn amlwg ymhlith y 500 o gystadleuwyr a gyrhaeddodd lwyfan mawr Neuadd Pritchard-Jones ddydd Sadwrn yng Ngwyl Cerdd Dant Glannau Menai roedd myfyrwyr Aelwyd John Morris-Jones. Darllen ymlaen ...

Tachwedd 2010: R.S. Thomas – Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol

Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor wedi’i nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad.

Darllenwch yr erthygl yn llawn...

Tachwedd 2010: Seminarau Ysgrifennu Creadigol Ysgol y Gymraeg

Y Prifardd Dr Tudur Hallam yn trafod ei awdl arobryn ENNILL TIR

Awdl Gadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010

Dydd Iau, 4 Tachwedd, am 6.00 o’r gloch, Ystafell Seminar Gymraeg (ger Ysgol y Gymraeg)

CROESO CYNNES I BAWB!

Hydref 2010: Seminar Ysgrifennu Creadigol Ysgol y Gymraeg

Nos Iau, 7 Hydref, am 6.00 o'r gloch yn yr Ystafell Seminar Gymraeg, bydd y Prif Lenor Jerry Hunter yn trafod ei nofel GWENDDYDD, a enillodd iddo Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent 2010. Croeso cynnes i bawb.

Medi 2010: Myfyrwyr Bodlon

Am yr ail flwyddyn yn olynol y mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, wedi sicrhau canlyniad gwych yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (http://unistats.direct.gov.uk). Roedd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn yr arolwg yn fodlon â safon gyffredinol eu cwrs gradd. Drwy holl wledydd Prydain, Ysgol y Gymraeg Bangor oedd yr unig uned academaidd i sirhau lefel bodlonrwydd o 100% ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Yn ôl yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth y Gymraeg ym Mangor, "y mae'r canlyniad hwn yn tystio i ymroddiad enfawr y darlithwyr ar ran eu myfyrwyr ym Mangor. Mae gwaith darlithio yn waith amrywiol iawn, ond mae yna un peth yn ddieithriad ar frig rhestr ein blaenoriaethau ni yn Ysgol y Gymraeg - ein myfyrwyr."

Medi 2010: 'Myfyrwraig y Flwyddyn' yn cyrraedd y Brifysgol mewn steil!

Mae myfyrwraig Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd ei neuadd breswyl mewn steil mewn Fiat Panda newydd sbon - ei gwobr am ennill cystadleuaeth Myfyriwr y Flwyddyn ei sir! Daeth Amy Mason, 18, o Ferthyr Tudful i'r brig yng ngwobrau 'Myfyriwr y Flwyddyn' sy'n cael eu noddi ar y cyd gan Rhondda Cynon Taf a Griffin Mill Garages. Mwy...

Awst 2010:Dyfodol disglair - Teitl cyfieithydd gorau Prydain i fyfyriwr o Gymru

Barnwyd mai myfyriwr o Brifysgol Bangor oedd y cyfieithydd gorau o blith cannoedd o ymgeiswyr sy’n astudio’r pwnc yn academaidd ledled Prydain. Enillodd Dafydd Frayling, a fu’n astudio am y Dystysgrif Ôl-radd mewn Cyfieithu ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, y goron yn erbyn y gystadleuaeth gref. Mwy...

Llun o Dr Jerry HunterAwst 2010: Jerry Hunter yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod 2010

Dr Jerry Hunter, darllenydd yn Ysgol y Gymraeg, yw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Adfywiad. Y mae’r nofel Gwenddydd yn ymwneud â phrofiadau brawd a chwaer yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn seiliedig yn rhannol ar y traddodiadau Cymraeg cynharaf sy’n ymwneud â chymeriad Myrddin. Mwy...

Gorffennaf 2010: Enillydd Prif Wobr Myfyriwr Cymraeg Prifysgol Bangor

Lois Prysor Jones o Arenig ger tref Y Bala, yw enillydd Gwobr Cymraeg Dr John Robert Jones ym Mhrifysgol Bangor eleni. Hon yw un o’r prif wobrwyon sy’n cael eu dyfarnu i’r graddedigion orau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol bob blwyddyn- a’r Wobr Cymraeg yn cael ei ddyfarnu i’r myfyriwr neu fyfyrwraig orau o Gymru ar draws y Brifysgol. Mwy...

Gorffennaf 2010: Dramodydd yr Urdd yn Holi Dramodydd Iesu!

Newydd ei  chyhoeddi mae’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Ysgrifau Beirniadol, ac ynddi mae’r ddramodwraig a’r actores Manon Wyn Williams, a enillodd Fedal Ddrama’r Urdd eleni ac sy’n fyfyrwraig ymchwil yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, yn holi’r dramodydd a’r llenor Aled Jones Williams.  Mewn cyfweliad sy’m mynd i’r afael â gwahanol agweddau ar ei waith, mae’n trafod yr hyn a’i gyrrodd i ysgrifennu dramâu mor bryfoclyd a dadleuol â Lysh! ac Iesu. Mwy...

Mehefin 2010: Ymddeoliad Mrs Gwyneth Williams

Llun o GwynethNos Fercher, 9 Mehefin, daeth cyfeillion a chydweithwyr ynghyd i anrhydeddu Mrs Gwyneth Williams, Gweinyddwraig Ysgol y Gymraeg, sydd wedi ymddeol ar ôl gwasanaethu Prifysgol Bangor am ddeugain a saith o flynyddoedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n cydweithio gyda chyfres o ddarlithwyr, yn eu plith yr Athrawon Melville Richards, Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan, Gwyn Thomas, Gruffydd Aled Williams a Branwen Jarvis. Bu hefyd yn gymorth ac yn gefn i genedlaethau o fyfyrwyr yr adran ar hyd y blynyddoedd.

Cafwyd cyfle yn ystod y noson i’w hanrhegu ac i ddiolch iddi am ei hymroddiad diflino a’i theyrngarwch diamod dros gyfnod o bron hanner canrif. Gyda’i hymddeoliad, daw cyfnod sylweddol yn hanes yr adran i ben.

Dymuna’i holl gyfeillion hir oes a phob hapusrwydd i Gwyneth a’i gŵr, Viv.

Mehefin 2010: Coron a Medal i Fyfyrwyr Cymraeg Bangor – Eto!

Llongyfarchiadau calonnog i Catrin Haf Jones ar ennill Coron Eisteddfod yr Urdd a Manon Wyn Williams ar ennill y Fedal Ddrama! Mwy...

Mai 2010: Dadorchuddio Penddelw o'r Athro Bedwyr Lewis Jones

Darllen ymlaen...

Mai 2010: Nofel gyntaf myfyrwraig a gwobr Llyfr y Flwyddyn

Llongyfarchiadau mawr i Sian Owen, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg ar gael ei henwebu ar restr hir gwobr Llyfr y Flwyddyn 2010. Darllen ymlaen...

Mai 2010: Darlithydd yn cyhoeddi dwy nofel

Bu mis Mawrth yn fis prysur i Dr Angharad Price sydd yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg. Ddechrau’r mis cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, Caersaint, y bu’n gweithio arni ers bron i bedair blynedd. Darllen ymlaen...

Mai 2010: Y Prif Lenor ar Ymweliad

Fel rhan o gyfres Seminarau Ymchwil Ysgol y Gymraeg daeth yr awdures a’r Prif Lenor Sian Melangell Dafydd i drafod ei gwaith yn Ysgol y Gymraeg. Darllen ymlaen...

Mai 2010: Ysgol y Gymraeg yn cydweithio gyda Thŷ Cyfieithu Cymru

Yn ddiweddar bu Ysgol y Gymraeg cydweithio gyda Thŷ Cyfieithu Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru i drefnu ymweliad gan yr awdures o’r Almaen, Mareike Kruegel. Darllen ymlaen...

Mai 2010: Actorion ac awduron yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg

Fel rhan o’r modiwl is-raddedig ‘Y Theatr Gymraeg Fodern’ ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 cafwyd cyfres o ymweliadau gan actorion, awduron ac arbenigwyr ar y theatr fodern Gymraeg. Darllen ymlaen...

Ebrill 2010: Llyfr y Flwyddyn 2010 ac Ysgol y Gymraeg

Unwaith eto eleni, bu Ysgol y Gymraeg yn cydweithio gyda'r Academi Gymreig i drefnu Noson Lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.  Ac mewn noson hwyliog a gynhaliwyd yn y Ganolfan Rheolaeth, datgelwyd enwau'r ugain teitl - deg yn y Gymraeg a deg yn y Saesneg - a fydd yn cystadlu am y wobr fawr o £10,000 yn y ddwy iaith.

Dau o fyfyrwyr ymchwil Ysgol y Gymraeg, Manon Wyn Williams a Rhodri Llŷr Evans, a fu'n darllen detholiadau o weithiau'r ddwy restr hir yn ystod y noson.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan BBC Cymru'r Byd:

http://www.bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn/llyfrau/straeon/llyfr-2010.shtml

Ebrill 2010: Cartref Newydd i JMJ

Mae myfyrwyr Cymraeg Bangor yn edrych ymlaen at newid byd wrth i’r neuadd cyfrwng Cymraeg - Neuadd John Morris Jones - symud i adeilad newydd ym mis Medi. Mwy o wybodaeth...

Mawrth 2010: Xhosa Praise Poetry*

Darlith Gyhoeddus yn Ysgol y Gymraeg gan Yr Athro Jeff Opland, Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd Prifysgol Llundain

Dydd Mercher, 14 Ebrill am 5pm yn Ystafell Ddarlithio 3, Prif Adeilad y Celfyddydau. *Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.

Mawrth 2010: Penodi’r Athro Gerwyn Wiliams yn Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi penodi’r Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru.  Mae’n un o chwe aelod newydd a benodir am gyfnod o dair blynedd a bydd yn cychwyn ar y gwaith ar 1 Ebrill 2010. Mwy o wybodaeth...

Mawrth 2010: Pen-blwydd Hapus i Dri

Mewn cyfarfod arbennig yn Aberystwyth bnawn Sadwrn, 6 Mawrth, lansiwyd cyfrol Dr Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so: Theori a Beirniadaeth Lenyddol R.M. (Bobi) Jones.

Golygydd Cyffredinol Cyfres y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig ar ran Gwasg Prifysgol Cymru yw’r Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor. Darllen ymlaen....

Tachwedd 2009:Y Gweinidog dros Dreftadaeth yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg

Bu un o’i chyn-fyfyrwyr mwyaf amlwg yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg yn ddiweddar, sef Alun Ffred Jones, A.C. Arfon a’r Gweinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Darllen ymlaen...

Tachwedd 2009: Cofio'r Chwalfa Fawr

Ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd bydd Ysgol y Gymraeg, gyda chefnogaeth yr Academi Gymreig, yn cynnal cynhadledd undydd a fydd yn dadansoddi’r ymateb yn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd y 1980au i'r bleidlais 'Na' yn refferendwm 1979 ar ddatganoli. Mwy o wybodaeth a chofrestru....

Medi 2009: O Fangor i Lyfrgell y Gyngres – i astudio’r Gymraeg

Mae Gwilym Morus, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, wedi ennill un o Ysgoloriaethau Llyfrgell y Gyngres a fydd yn ei alluogi i astudio am gyfnod estynedig yn un o lyfrgelloedd cenedlaethol mwyaf dynamig y byd. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2009:Mam i  bedwar o blant yn graddio ar ôl chwe blynedd

Wedi chwe blynedd o waith caled, mae’r wraig fferm Eirian Alwen Jones o Lannefydd yn Ninbych yn dathlu wrth iddi raddio gyda Gradd Dosbarth Cyntaf. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2009: Myfyrwraig yn ‘ysbrydoliaeth i eraill’

Mae myfyrwraig Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bangor wedi graddio eleni gyda phedair gwobr, yn ogystal â gradd dosbarth cyntaf. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2009: Anifeiliaid sy’n Siarad ac Ysgrifau Eraill

Newydd ei chyhoeddi mae’r gyfrol ddiweddaraf o Ysgrifau Beirniadol ac mae’r cynnwys mor amrywiol ag erioed. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2009: Dr Jerry Hunter yn derbyn Cymrodoriaeth Ddysgu

Mewn Seremoni Raddio ar 14 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor, derbyniodd Dr Jerry Hunter Gymrodoriaeth Ddysgu. Darllen ymlaen...

Mai 2009: Coroni Lleucu

Llongyfarchion calonnog iawn i Lleucu Fflur Hughes ar ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd! Darllen ymlaen...

Ebrill 2009: Ysgol y Gymraeg a Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Nos Fercher, 22 Ebrill, mewn noson hwyliog a gynhaliwyd yn y Ganolfan Reolaeth, Prifysgol Bangor, lansiwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2009.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen a gweld lluniau o'r noson

Mawrth 2009: Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg: Drama a Sgriptio

Llwytho mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth i lawr

Mawrth 2009:‘Fy Antur Fawr yn Harvard!’ gan  Rhiannon Heledd Williams

Ar gyfer ei chynllun PhD dan nawdd AHRC, mae Rhiannon Heledd Williams wrthi’n ymchwilio i wasg gyfnodol America dan gyfarwyddyd Dr Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.  Fel rhan o’i chynllun, mae hi’n treulio’r semester presennol ym Mhrifysgol Harvard.  Dyma hi’n adrodd rhywfaint o’i hanes ei hantur fawr yn Harvard.

Darllen ymlaen...

Mawrth 2009: Tri chynnig i Gymro a Chymraes

yr enillwyrLlongyfarchiadau i ddau o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ar ennill Cân i Gymru ar S4C Ddydd Gŵyl Dewi, sef Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts am y gân 'Gofidiau'.

Graddiodd Elfed mewn Cymraeg a Cherddoriaeth yn 2004 ac mae bellach yn athro yn Ysgol John Bright, Llandudno. Enillodd Lowri radd ac MA mewn Cymraeg ac mae hithau'n dysgu yn Ysgol Brynrefail. Mae'r ddau eisoes wedi ennill cystadleuaeth cyfansoddi carol S4C ddwywaith. Dyma hefyd oedd y trydydd tro i Elfed ganu yn ffeinal Cân i Gymru.

Maent wedi ennill y brif wobr o £10,000, drwy blesio'r panel o arbenigwyr yn y stiwdio ac ennill pleidleisiau’r gwylwyr gartref.

"Mae'n dda gweld dau mor dalentog yn cael y fath lwyddiant wrth gyfansoddi caneuon. Mae'n amlwg fod y gân hon wedi swyno'r beirniaid ar y panel a'r gwylwyr gartref fel ei gilydd", meddai'r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg.

Bydd Elfed Morgan Morris a ‘Gofidiau’ yn awr yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd fydd yn cael ei chynnal yn nhref Donegal, Iwerddon ym mis Ebrill.

“Mi roedden ni’n teimlo fod y caneuon eraill yn y ffeinal i gyd o safon uchel, ac y byddai hi’n gystadleuaeth agos,” meddai Elfed, a ddenodd y gynulleidfa yn y stiwdio i sefyll ar eu traed gyda’i berfformiad o’r gân fuddugol, ‘Gofidiau’.

“Mae Cân i Gymru wedi bod yn rhan fawr o fywydau Lowri a minnau ers tri mis wrth inni baratoi ar gyfer y noson fawr, ac rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan ddisgyblion yr ysgolion lle rydym yn dysgu - Ysgol John Bright, Llandudno, lle dwi’n athro, ac Ysgol Brynrefail yn Llanrug, lle mae Lowri yn gweithio. Rydym hefyd wedi derbyn cefnogaeth wych gan y gynulleidfa heno.”

Anfonwyd mwy o ganeuon nag erioed o’r blaen i’r gystadleuaeth eleni, a theimla Lowri Watcyn Roberts fod yr hwb yma i gyfansoddwyr Cymraeg yn agwedd bwysig ar gystadleuaeth Cân i Gymru. “Mae ennill yn fonws ffantastig, wrth gwrs, ond dwi’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig yw bod y gystadleuaeth hon eleni wedi ysbrydoli cyfansoddwyr i sgwennu 120 o ganeuon Cymraeg newydd,” meddai.

Chwefror 2009: Myfyrwyr MA Llwyddiannus Ysgol y Gymraeg

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr MA llwyddiannus Ysgol y Gymraeg y cadarnhawyd eu canlyniadau’n ddiweddar sef Rhodri Llŷr Evans, Menna Machreth Jones, Lleucu Fflur Hughes a Medi Vaughan Wilkinson!

Ar gyfer ei draethawd hir, bu Rhodri Llŷr Evans yn trafod: ‘Ffydd, Eiliadau, Tyrau, Esgyrn ac Ysbrydion: astudiaeth o nofelau Owen Martell a Tristan Hughes’.  Y mae bellach yn ymchwilio ar gyfer PhD ar y thema 'Gwrywdod yn y nofel Gymraeg ddiweddar' dan gyfarwyddyd Dr Angharad Price.  Daw Rhodri yn wreiddiol o Fethesda ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

Ar gyfer ei thraethawd hir hithau, bu Menna Machreth Jones yn trafod ‘Agweddau ar hunaniaethau Cymreig mewn barddoniaeth ddiweddar o Gymru’.  Erbyn hyn mae hi’n ymchwilio ar gyfer doethuriaeth i 'Hunaniaethau Cymraeg a Chymreig yn sgil y refferenda' dan gyfarwyddyd Dr Jason Walford Davies.  Daw Menna’n wreiddiol o ardal Caerfyrddin ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Maes yr Yrfa.

Dan gyfarwyddyd Yr Athro Gerwyn Wiliams, enillodd Lleucu Fflur Hughes MA Ysgrifennu Creadigol y cyfansoddodd nofel fer ar ei gyfer a pharatodd Medi Vaughan Wilkinson gasgliad o gerddi rhydd ar gyfer yr un cymhwyster.  Un o Eifionydd yw Lleucu ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor tra daw Medi o Gaernarfon lle’r aeth i Ysgol Syr Hugh Owen.

Seminarau Ymchwil

Mae Cyfres Seminarau Ysgol y Gymraeg wedi eu cyhoeddi ar gyfer Semester 2. Cliciwch yma i weld y rhestr

Enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2008

Mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Pritchard Jones yn ddiweddar, derbyniodd y myfyrwyr a ganlyn o Ysgol y Gymraeg Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Bangor.  Mae’r myfyrwyr hyn rhyngddynt wedi ennill gwerth £16000 o ysgoloriaethau. Mwy...

Rhestr Fer

Dewiswyd gwaith creadigol cyn-fyfyrwraig ar gyfer rhestr fer gwyl ffilm flynyddol Ffresh 2009. Graddiodd Helen Davies ym Mehefin 2008 gyda gradd dosbarth cyntaf Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a bellach mae'n gweithio fel newyddiadurwraig i gwmni ITV. Dewiswyd ei ffilm ddogfen 'Brad y Ffatri' yng nghategori rhaglen ddogfen. Cynhelir yr wyl ffilm ym mis Chwefror 2009 a hon yw'r wyl ffilm fwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru. Darllen y stori lawn...

Tachwedd 2008: Myfyrwyr yn profi Opera

Yn ddiweddar, bu dwy fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn dysgu mwy am ysgrifennu opera.

Ddydd Sul, 9 Tachwedd oedd uchafbwynt Make an Aria, sef prosiect cyffrous gan Theatr Gerdd Cymru i ehangu profiad a chyfleoedd ar gyfer ysgrifennu opera ymhlith cyfansoddwyr ac awduron newydd yng Nghymru. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Medi 2008: Cyrsiau Undydd Ysgol y Gymraeg yn denu dros 400 o ddisgyblion

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, bu aelodau o Ysgol y Gymraeg yn cynnal dau gwrs undydd tra llwyddiannus ar gyfer disgyblion cyrsiau AS ac A2 Cymraeg a’u hathrawon. Darllen ymlaen...

Awst 2008: Ifan Morgan Jones yn Ennill Gwobr Goffa Daniel Owen!

Am y trydydd tro o fewn pedair blynedd, un o fyfyrwyr ôl-radd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ifan Morgan Jones, Is-Olygydd y cylchgrawn wythnosol Golwg, a enillodd brif wobr yr Eisteddfod am nofel newydd gyda’i nofel gyntaf, Igam Ogam. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2008: Cynhadledd Ryng-ddisgyblaethol Ysgol y Gymraeg

Beth yw natur y berthynas rhwng barddoniaeth Gymraeg a ffurfiau celfyddydol eraill? Dyna’r cwestiwn canolog a fydd yn cael ei holi mewn cynhadledd undydd a drefnir gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2008. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2008: Dwy Gynhadledd Undydd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg AS/A2: Iaith Gyntaf

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn trefnu dwy gynhadledd undydd ar faes llafur Cymraeg AS/A2: Iaith Gyntaf ganol mis Medi 2008. Cynhelir y gyntaf yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth, 16 Medi 2008, a’r ail ym Mangor ddydd Iau, 18 Medi 2008. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2008: Arddangosfa Syr Ifor Williams

Bydd arddangosfa'n dilyn bywyd a gwaith gŵr o Dregarth a ddaeth yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor i'w weld yn Narllenfa Shankland, Prif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol Bangor tan ddiwedd Awst. Darllen ymlaen...

Gorffennaf 2008: Gwobrau Glyn

Llwyddodd un o raddedigion Ysgol y Gymraeg eleni i ennill cyfanswm o bedair gwobr yn ogystal â gradd Dosbarth Cyntaf! Darllen ymlaen....

Mehefin 2008:Graddedigion ac Enillwyr Gwobrau Haf 2008

Cafwyd ganlyniadau gradd ardderchog gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg eleni. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mehefin 2008: Plac i Goffáu R.S. Thomas (1913–2000)

Mae plac i goffáu bywyd a gwaith y bardd R.S. Thomas wedi ei osod ger mynedfa Prif Lyfrgell y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd y plac ei ddadorchuddio mewn seremoni fore Sadwrn 14 Mehefin 2008. Darllen ymlaen...

Mai 2008: Athro Harvard ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg

Bu’r Athro Patrick Ford o Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard ar ymweliad yn ddiweddar ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a hynny er mwyn trosglwyddo i ofal y Brifysgol gopi personol o Gwaith Dafydd ap Gwilym. Darllen ymlaen...

Ebrill 2008: Dramodwyr ar Ymweliad ag Ysgol y Gymraeg

Ganol Ebrill, bu’r dramodydd Aled Jones Williams yn cynnal seminar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Darllenwch ymlaen...

Mawrth 2008: Cofio Philip Jones Griffiths

Mae marwolaeth y ffotonewyddiadurwr o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, yn golled i Gymru a’r byd. Darllenwch am ei gysylltiad gyda Fangor...

March 2008: Gwobr i Fyfyrwraig PhD Ysgrifennu Creadigol

Llongyfarchiadau i Sian Owen ar ennill adran cerddi Cymraeg cystadleuaeth farddoniaeth Féile Filíochta 2008.

Ym mis Ebrill bydd yn teithio i Iwerddon i seremoni wobrwyo lle bydd yn darllen ei cherdd fuddugol a chasglu gwobr o €1,000. Bob blwyddyn bydd y Féile Filíochta yn gwobrwyo enillwyr mewn deg iaith, ac eleni daeth dros 4,000 o gynigion i law. Darllen ymlaen...

Chwefror 2008: Cyswllt Bangor a Harvard

Fel rhan o'r berthynas rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysol Bangor ac Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard, mae Sam Jones yn treulio'r semester presennol yn astudio ym Mangor. Cliciwch yma i ddarllen ei hanes.

Chwefror 2008: Esgor ar ôl Hir Ddisgwyl – Y Cyfeirlyfr Cymreig Mwyaf Er 1875

Ar ôl bron i ddegawd o waith ymchwil, ysgrifennu a golygu, bydd y gyfrol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a’i chymar Saesneg The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, yn dod o’r wasg ar 31 Ionawr. Rhyngddynt, y mae’r cyfrolau uchelgeisiol hyn – a olygwyd gan Menna Baines, John Davies, Nigel Jenkins, ynghyd â’r Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg – yn cynnwys dros 1.6 miliwn o eiriau ac yn ffrwyth partneriaeth academiadd unigryw a grewyd rhwng yr Academi Gymreig, Gwasg Prifysgol Cymru, Y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg yng Nghymru (Prifysgol Abertawe) ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor. Darllenwch ymlaen...

Ionawr 2008: Myfyrwyr MA

Ar ddechrau 2008, braf yw cael llongyfarch y myfyrwyr a ganlyn a enillodd MA yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Darllen ymlaen...

Rhagfyr 2007: Cronfa Baledi, Geiriadur Enwau Lleoedd a Chyfrol Deyrnged i'n Bardd Cenedlaethol

Mae Prifysgol Bangor wedi lansio tair cyfrol yn ddiweddar: mynegai cynhwysfawr i'r holl faledi a gyhoeddwyd, ac sy'n goroesi, o'r ddeunawfed ganrif, Geiriadur Enwau Lleoedd awdurdodol  a chynhwysfawr  ar gyfer Cymru gyfan a chyfrol deyrnged i Fardd Cenedlaethol Cymru, Yr Athro Gwyn Thomas. Mwy...

Rhagfyr 2007 :Gwahoddiad

Gwahoddiad i gyfarfod lansio cyhoeddiadau diweddaraf Ysgol y Gymraeg. Mwy o fanylion...

Tachwedd 2007: Enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad Ysgol y Gymraeg

Mewn cyfarfod diweddar yn Neuadd Powis, rhannwyd gwerth £100,000 o ysgoloriaethau mynediad Prifysgol Bangor i fyfyrwyr yn eu Blwyddyn Gyntaf.  Ac roedd myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn amlwg ymhlith y rhai y cyflwynwyd sieciau iddynt. Mwy...

Tachwedd 2007: Ymweliad Fatos Kongoli ag Ysgol y Gymraeg

Nos Fawrth, 30 Hydref 2007 cafwyd darlleniad a thrafodaeth gyda’r nofelydd nodedig o Albania, Fatos Kongoli, noson a drefnwyd ar y cyd gyda Sioned Puw Rowlands o asiantaeth Llenyddiaeth Cymru Dramor a PEN. Yn ystod y noson lawnsiwyd cyfieithiad Saesneg o nofel enwocaf Kongoli, sef I Humburi (‘Y Collwr’ /  The Loser), a gwblhawyd gan Robert Elsie a Janice Mathie-Heck ac roeddent hwythau’n bresennol ar y noson i drafod y broses gyfieithu. Mwy...

Hydref 2007: Croeso i Ddosbarth 2007 o Fyfyrwyr Ymchwil!

Croeso i ddosbarth 2007 o fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, y criw mwyaf niferus a gafwyd ers rhai blynyddoedd. Mwy...

Hydref 2007: Llongyfarchiadau i Dr Jerry Hunter!

Llongyfarchiadau i Dr Jerry Hunter sydd newydd ei ddyrchafu’n Ddarllenydd a hefyd ar gyhoeddi ei lyfr diweddaraf. Lansiwyd y gyfrol nos Fercher, 10 Hydref, mewn cyfarfod arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Mwy...

Hydref 2007: Dr Angharad Price yn trafod Louvain yn Galway

Rhwng 12-13 Hydref 2007, gwahoddwyd Dr Angharad Price i annerch cynhadledd a ddathlai bedwarcanmlwyddiant sefydlu Coleg Sant Antwn yn Louvain (Gwlad Belg heddiw). Mwy...

Hydref 2007: Awdur o Albania yn Ymweld â Bangor

Fel rhan o’i daith drwy Brydain, bydd Fatos Kongoli, un o awduron pwysicaf Albania, yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor i drafod ei nofel I humburi ('Y Collwr') sydd newydd ei chyfieithu i'r Saesneg gan Robert Elsie a Janice Mathie-Heck. Mwy...

Medi 2007:Dr Jerry Hunter yn cyfweld Philip Jones Griffiths

Bydd cyfle prin i glywed y ffotonewyddiadurwr Philip Jones Griffiths yn trafod ei waith yng nghwmni Dr Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg nos Sadwrn, 29 Medi yng nghanolfan diwydiannau creadigol Galeri yng Nghaernarfon. Mwy...

Medi 2007: Llongyfarchiadau Manon!

Llongyfarchiadau mawr i Manon Wyn Williams ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel!  Darllen ymlaen...

Medi 2007:Cwrs Undydd Ysgol y Gymraeg yn Torri Record!

Daeth dros 350 o ddisgyblion a myfyrwyr i gwrs undydd a gynhaliwyd gan Ysgol y Gymraeg fis Medi – y nifer fwyaf yn hanes yr ysgol! Darllen ymlaen...

Awst 2007:Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint

Cafodd Ysgol y Gymraeg wythnos lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint fis Awst. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Byd y Nofelydd – Cynhadledd Ysgol y Gymraeg a CREAD

Ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, bydd rhai o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Bangor i drafod agweddau ar y nofel Gymraeg gyfoes.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Cymrodyr er Anrhydedd Bangor

Dau o sêr disgleiriaf byd y celfyddydau a dderbyniwyd yn Gymrodyr er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Bangor yn ddiweddar oedd yr actor Rhys Ifans a’r gantores Siân James.  A dau o Ysgol y Gymraeg, Dr Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams, a’u cyflwynodd yn ffurfiol ar gyfer yr anrhydeddau hyn. 

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen..

 

Gorffennaf 2007: Cyflwyno Ysgrifau Beirniadol XXVII i’r Athro John Rowlands

A’r gyfres arloesol Ysgrifau Beirniadol wedi gweld golau dydd am y tro cyntaf un yn 1965, bydd yn cael ei hail-lansio’r haf hwn – a hynny’n gwbl briodol – gyda chyfrol deyrnged i un o’r gwŷr llên mwyaf dylanwadol ei bresenoldeb a helaeth ei gyfraniad yn ystod y deugain mlynedd a mwy a aeth heibio ers hynny, yr Athro John Rowlands. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Y Llyfr Cymraeg Pwysicaf ers y Beibl

Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ar ei ffordd drwy’r wasg. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Llyfr Sara’n ennill gwobr – cyn iddo gael ei gyhoeddi!

Cyhoeddwyd bod The Legal Triads of Medieval Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) gan Dr Sara Elin Roberts o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru, wedi ennill Gwobr David Yale y Selden Society 2007 – a hynny cyn i’r gyfrol gael ei ei gyhoeddi ar gyfer Eisteddfod
Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau ddechrau Awst. 

Clciciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Llongyfarch Siân a Scott!

Cyhoeddwyd bod Siân Cleaver wedi ennill Gwobr Dr John Robert Jones, sef y wobr bwysicaf y gall Prifysgol Bangor ei dyfarnu i'w graddedigion.

Myfyriwr arall sy’n mynd o nerth i nerth yw Scott Rowley.  Ac yntau’n ddysgwr, enillodd Dlws y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol yn gynharach eleni ac mae bellach wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn. 

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2007: Haf Prysur Ysgol y Gymraeg

Bydd staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn brysur iawn drwy’r haf! Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Graddedigion Haf 2007

Cafwyd set ardderchog o ganlyniadau gradd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor eleni! Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mehefin 2007: Enillwyr Graddau Uwch

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr ôl-raddedig gan gynnwys Glenda Carr, Nesta Caren Efans ac Ilid Ann Humphreys am gwblhau eu graddau uwch. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mehefin 2007: ‘Nofelydd pwysicaf Affrica’ yn ymweld â’r Ysgol

Nos Fawrth, 5 Mehefin cafwyd noson gofiadwy yng nghwmni’r llenor a’r ysgolhaig o Kenya, Ngugi wa Thiong’o, a alwyd yn ‘nofelydd pwysicaf Affrica’. Darllen ymlaen...

Mehefin 2007: Ngugi wa Thiong’o i ymweld ag Ysgol y Gymraeg

Cynhelir darlith arbennig gan Ngugi wa Thiong’o, y nofelydd a’r ysgolhaig nodedig o Kenya, dan nawdd Ysgol y Gymraeg ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor ddechrau mis Mehefin. Darllen ymlaen..

30 Mai 2007: Medal Ddrama’r Urdd i Manon!

Llongyfarchion calonnog iawn i Manon Wyn Williams ar ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007!

A hithau’n fyfyrwraig ar ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau, mae’r monolog a gyflwynodd i’r gystadleuaeth yn rhan o’i gwaith cwrs dan gyfarwyddyd Dr William R. Lewis.

Dyma’r trydydd tro o fewn mis i Manon brofi llwyddiant eisteddfodol: hi a enillodd Dlws y Ddrama i rai dan 26 oed yn Eisteddfod Môn yn ogystal â Thlws Lenyddol yr Ifanc a’r Fedal Ryddiaith.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

21 Mai 2007: Manon o Fôn  a’r Eisteddfod Lwyddiannus!

Cafodd Manon Wyn Williams, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, eisteddfod i’w chofio’n ddiweddar!

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mai 2007: Llongyfarchiadau i Fyfyrwyr MA, MPhil a PhD Ysgol y Gymraeg

Ymhlith y myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil sydd wedi ennill MA o Ysgol y Gymraeg yn ddiweddar mae’r canwr poblogaidd Gwilym Morus am ei olygiad o waith y bardd canoloesol, Robin Ddu o Fôn, a’r nofelydd Janice Jones am ei hastudiaeth o’r ddelwedd o’r Gymraes mewn detholiad o ffuglen gyfoes. Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mai 2007: Llongyfarchiadau, Ddramodwyr!

Llongyfarchiadau i ddramodwyr llwyddiannus Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor!

Nos Sadwrn, 28 Ebrill 2007, daeth dwy gyfarwydd o Ysgol y Gymraeg i’r brig mewn cystadlaethau drama yng Ngŵyl Ddrama Eisteddfod Môn a gynhaliwyd yn Theatr Fach, Llangefni. Darllen ymlaen...

Mai 2007: Tair Nofel gan Dair Nofelwraig

Mae rhai o gynfyfyrwyr creadigol Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor wedi profi cyfnod creadigol iawn yn ddiweddar wrth i bob un ohonynt gyhoeddi nofelau newydd sbon danlli.  Mae Fy Hanes I: Yr Arwisgo gan Sonia Edwards, Cysgodion y Coed gan Siân Eirian Rees Davies a Gelert gan Gwen Pritchard Jones i gyd wedi eu hanelu at ddarllenwyr ifainc. Darllen ymlaen...

Ebrill 2007: Cwrs Adolygu Cymraeg: Ail Iaith Ysgol y Gymraeg

Llun o ddisgyblionDaeth oddeutu cant o ddisgyblion, ynghyd â’u hathrawon, sy’n astudio Cymraeg: Ail Iaith ar gyfer eu harholiadau AS ac A2 i Gwrs Adolygu hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Ysgol y Gymraeg.

Yn ystod y dydd, cawsant gyfres o gyflwyniadau i’w testunau gosod.  Bu Dr Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg yn trafod cerddi beirdd fel Grahame Davies a Myrddin ap Dafydd â nhw tra bu Dr Angharad Price yn trafod rhai o storïau byrion Mihangel Morgan a’r Athro Gerwyn Wiliams yn trafod y ffilm Hedd Wyn.Yno hefyd yr oedd Yr Athro Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, i drafod rhai o’i gerddi ei hun sydd ar y maes llafur, yr actores Maureen Rhys a fu’n trafod y ddrama Siwan, a’r athrawes brofiadol Mair Price a roddodd hyfforddiant ymarferol iddynt ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg.  Drwy gyd-ddigwyddiad, mae Maureen a Mair yn ddwy o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mangor lle bu’r Athro Gwyn Thomas yn darlithio iddynt!

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Ebrill 2007: Croesawu - a Ffarwelio

llun o Jean Cross, Merfyn Jones a Gwyneth Bu’n wythnos o groesawu ac o ffarwelio ddiwedd Ebrill yn Ysgol y Gymraeg.

Ganol yr wythnos daeth ugain o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd draw i wrando ar Yr Athro Gerwyn Wiliams yn trafod nofel Mihangel Morgan, Dan Gadarn Goncrit

At ddiwedd yr wythnos roedd hi’n bryd i Mrs Jean Cross, un o wynebau mwyaf cyfarwydd Coridor yr Athrawon hongian ei ffedog am y tro olaf. Darllen ymlaen...

 

Ebrill 2007 - Rhwydo Dafydd ap Gwilym

Delwedd o Dr Sara ElinHanner cant a phump o flynyddoedd ers cyhoeddi’r golygiad modern cyntaf o gerddi Dafydd ap Gwilym, mae cysylltiad Ysgol y Gymraeg â gwaith prif fardd Cymraeg yr Oesoedd Canol yn parhau.

Yn 1952 cyhoeddodd Syr Thomas Parry, Athro’r Gymraeg ym Mangor ar y pryd, Gwaith Dafydd ap Gwilym a gyfrifir yn orchestwaith academaidd; newydd ei gyhoeddi y mae’r golygiad arloesol digidol o waith y bardd a Dr Sara Elin Roberts, Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mangor ar hyn o bryd, yn aelod o’r tîm o ysgolheigion a’i paratôdd.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mawrth 2007 - Ailagor Hen Gartref Kate Roberts

Llun o Kate RobertsWedi blynyddoedd o waith adnewyddu Cae’r Gors, cartref Kate Roberts yn Rhosgadfan, cafodd y gymuned leol gyfle yn ddiweddar i weld y ganolfan dreftadaeth newydd sbon.  Bydd y ganolfan yn agor yn swyddogol ar 16 Mai 2007 - gyda chyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, Siân Eirian Rees Davies, yn rheolwr arni. Darllen ymlaen...

 

Mawrth 2007 - Angharad Tomos a Gwen Griffith yn trafod eu nofelau

Delwedd o Angharad Tomos a Dr Angharad PriceYn dilyn cyfres o gyflwyniadau llwyddiannus y llynedd pan ddaeth awduron fel y Prifardd Christine James a Caryl Lewis, awdur Martha, Jac a Sianco, draw i Ysgol y Gymraeg i drafod eu gwaith, mae rhagor o gyflwyniadau yn digwydd eleni.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mawrth 2007 : Eisteddfod Ryng-Golegol Bangor

Llongyfarchiadau i Lowri Evans o’r drydedd flwyddyn ar drefnu Eisteddfod Ryng-Golegol dra llwyddiannus yma ym Mangor ddechrau mis Mawrth.  Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd dyfarnu’r Goron i Rhodri Llŷr Evans – un arall yn ei drydedd flwyddyn a ddaeth yn ail hefyd ar y Fedal Ddrama – a Medal y Dysgwyr i Scott Rowley sy’n astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mangor ac yn treulio’r semester hwn yn Ffrainc.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Chwefror 2007: Ailgloriannu Alun Llywelyn -Williams a Waldo Williams

Mae dau o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yn cael eu hailgloriannu mewn cyhoeddiadau diweddar gan ddau aelod o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Ar drothwy'r Nadolig, cyhoeddwyd Cof ac Arwydd: Ysgrifau ar Waldo Williams (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol o ymdriniaethau beirniadol newydd sbon â cherddi Waldo a gydolygwyd gan Dr Jason Walford Davies a'i frawd, Dr Damian Walford Davies o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. 

Newydd ei chyhoeddi hefyd y  mae ysgrif feirniadol gan Yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mangor, a hynny ar gerddi Alun Llywelyn-Williams sy'n ymateb i'r Ail Ryfel Byd yn The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry (OUP).

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Chwefror 2007: Athro Celtaidd Prifysgol Harvard ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg

Delwedd o'r Athro Catherine McKenna  a myfyrwyr ymchwil yr ysgolBu’r Athro Catherine McKenna ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn ddiweddar. 

A hithau wedi ei phenodi yn olynydd i’r Athro Patrick Ford, hi yw’r Margaret Brooks Robinson Professor of Celtic Languages and Literatures ym Mhrifysgol Harvard er Gorffennaf 2005.  Bu ei hymweliad yn gyfle i gadarnhau ymhellach y berthynas arbennig sydd eisoes yn bod rhwng y ddwy ganolfan academaidd hon.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen

 

Chwefror 2007: Clasuron Rhyddiaith ar Lwyfan a Radio

Llun o glawr O!Tyn y Gorchudd gan Angharad PriceMae hi’n dymor y clasuron ar y llwyfan a’r radio ar hyn o bryd. Os nofel enwocaf un o gyn-fyfyrwyr Cymraeg Bangor a fu’n llenwi theatrau ar hyd a lled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, nofel gyfoes un o ddarlithwyr presennol Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor sydd bellach i’w chlywed ar donfeddi Radio Cymru.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen

Rhagfyr 2006: Gwobrau ac Ysgoloriaethau

Delwedd o fyfyrwyr yn derbyn eu gwobrauMewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, cyflwynwyd gwerth rhai miloedd o bunnoedd o sieciau ar ffurf ysgoloriaethau mynediad a gwobrau i amryw byd o fyfyrwyr israddedig yn ogystal â rhai ôl-radd ac ymchwil i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen

Rhagfyr 2006: Gwyneth, Gwyn a’r Beirdd

Delwedd o Dr Gwyneth LewisCynhaliwyd cynhadledd dra llwyddiannus gan Ysgol y Gymraeg yn ddiweddar dan y teitl Mwy Na Rhywbeth i’w Wneud?  Barddoni mewn Canrif Newydd.  Parodd y gynhadledd o ddydd Gwener, 17 Tachwedd tan ddydd Sadwrn, 18 ac fe’i hagorwyd gyda noson yng nghwmni Dr Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru. 

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

 

Tachwedd 2006: Angharad yn Awstria

Delwedd o AngharadGwahoddwyd Dr Angharad Price yn ddiweddar i gymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Klagenfurt yn Awstria.  A thra oedd hi yno, cafodd gyfle i fynd ar drywydd nofelydd o'r dref y gadawodd ei waith gryn argraff arni.  Cliciwch i ddarllen rhagor o'i hanes.

Hydref 2006: America Gaeth a’r Cymry (S4C)

Delwedd o Jerry HunterCyfres Ddogfen Newydd Dr Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg

Mae’r tîm a enillodd wobr BAFTA am eu cyfres ddogfen ar Gymru a Rhyfel Cartref America a ddarlledwyd yn 2004 wedi bod yn cydweithio o’r newydd, y tro hwn ar gyfres ddogfen sy’n ymchwilio i’r cyswllt rhwng Cymru a chaethwasiaeth yn America.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Medi 2006: Beirdd yn Bombardio Bangor!

Bydd beirdd yn bombardio Prifysgol Bangor ganol Tachwedd eleni. Rhwng 17 a 18 Tachwedd bydd cynhadledd a drefnir gan Ysgol y Gymraeg a'r Sefydliad Cymreig ar Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) a chyda chymorth Yr Academi Gymreig yn ystyried hynt barddoniaeth Gymraeg ar ddechrau canrif newydd.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Medi 2006: Ysgol y Gymraeg yn Denu Cannoedd

Yn ddiweddar daeth 250 o fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer AS/A2 Cymraeg i Gwrs Undydd hynod lwyddiannus a gynhaliwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.  Daethant yno o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Medi 2006: Dechrau'r Daith i Ddiweddgan

Mae cynhyrchiad o ddrama a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Yr Athro Emeritws Gwyn Thomas - Bardd Cenedlaethol Cymru - ar fin cychwyn ar daith ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Ysgrifennwyd Fin De Partie gan y Gwyddel a ymsefydlodd ym Mharis, Samuel Beckett, llenor Nobel sy'n fwy enwog efallai am ei glasur En attendant Godot, sydd hefyd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg dan y teitl Wrth Aros Godot a hynny gan Saunders Lewis. Ymddangosodd Diweddgan gyntaf yng nghyfres Gwasg Prifysgol Cymru, Y Ddrama yn Ewrop, yn 1969.  Theatr Genedlaethol Cymru sy'n cyflwyno'r ddrama hon a bydd ar daith yn ystod Hydref a Thachwedd 2006.

Cliciwch yma i ddarllen adolygiad ar wefan y bbc

Awst 2006: Coron, Cadair, Medal a Gwobr i Fangor!

Gwnaeth myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn rhagorol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni gan ennill yr holl brif wobrau llenyddol!

Darllenwch ymlaen....

Awst 2006: Jason a'r Chwyldro

Mae cyfres newydd ar S4C yn bwrw golwg ar hanes y Chwyldro Diwydiannol a'i effaith ar y Gymru fodern.

Dr Jason Walford Davies - Prifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004 gyda chasgliad o gerddi am Streic y Glowyr 1984 - sy'n cyflwyno Cymru a'r Chwyldro Diwydiannol.  Bydd y gyfres yn ein tywys i bob cwr o'r wlad, ac yn dangos, yn ôl y rhaglen, 'mai yng ngwres eirias diwydiant cafodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw ei ffurfio'.

Darllenwch ragor am y gyfres:

http://www.s4c.co.uk/ffeithiol/c_chwyldro.shtml

Gorffennaf 2006: Penodi Dwy Ddisglair i Ysgol y Gymraeg

Delwedd o Angharad Price

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor wrth ei bodd ei bod wedi gallu penodi dau ysgolhaig ifanc a disglair yn ddarlithwyr newydd o'i mewn.

Un o'r hen sir Gaernarfon yw Dr Angharad Price ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug cyn graddio ac ennill doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.  Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn 2002 gyda'i nofel nodedig O! Tyn y Gorchudd a dyfarnwyd yr un gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2003.

Delwedd o Sara Elin RobertsDaw Dr Sara Elin Roberts yn wreiddiol o Ynys Môn ac mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llangefni.  Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Bangor ymchwiliodd ar gyfer DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen. 

Darllenwch ymlaen

Gorffennaf 2006: Non yn ennill prif wobr y Brifysgol

Delwedd o Non Hughes a'r Athro Peredur Lynch


Mae Non Meleri Hughes o Ruthun,  i’w llongyfarch, nid yn unig am iddi ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg a Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Bangor ond am iddi hefyd ennill un o brif wobrwyon y Brifysgol.

Darllenwch ymlaen...

Gorffennaf 2006:Bardd Cenedlaethol Cymru

Mae’r Ysgol yn ymfalchïo’n fawr ym mhenodiad yr Athro Emeritws Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru.  Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, “Ac yntau wedi ei uniaethu ar hyd ei yrfa broffesiynol gyda Phrifysgol Bangor, mae’r penodiad hwn yn gydnabyddiaeth amlwg o’r rhan ganolog ac allweddol a chwaraeodd Gwyn yn cynnig cyfeiriadau newydd ar gyfer barddoniaeth Gymraeg ers y 1960au.” 

Bydd cyfle i glywed Bardd Cenedlaethol Cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, a’r Bardd Cenedlaethol Cyfredol, Gwyn Thomas, mewn cynhadledd a drefnir gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ar y cyd â’r Sefydliad Cymreig ar Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) yn ddiweddarach eleni: cynhelir Mwy Na Rhywbeth i’w Wneud?  Barddoni mewn Canrif Newydd rhwng 17 a 18 Tachwedd ym Mhrifysgol Bangor.

Rhagfyr 2005: Dwy Gadair i Ddau Athro

Delwedd o Dr Gerwyn WilliamsDelwedd o Dr Peredur LynchCyhoeddodd Prifysgol Bangor fod dau aelod o staff Ysgol y Gymraeg wedi eu dyrchafu i gadeiriau personol.  Llongyferchir Dr Peredur Lynch a Dr Gerwyn Wiliams ar eu camp: dyma arwydd amserol o ffyniant y Gymraeg o fewn yr un Ysgol academaidd bwysig hon a chanddi draddodiad goludog sy'n ymestyn yn ôl hyd at ddyddiau Syr John Morris-Jones yn 1889.

Darllenwch ymlaen....

Awst 2005: Eisteddfod Eryri – Wythnos Brysur i Ysgol y Gymraeg Bangor!

Delwedd o Ddisgyblion Ysgol Gynradd y GarneddCafodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor wythnos neilltuol o brysur ond llwyddiannus yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a gynhaliwyd ar dir y Faenol ar drothwy dinas Bangor.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Gorffennaf 2005: Gwobr BAFTA i Jerry

Mewn seremoni yng Nghaerdydd, cyflwynwyd Gwobr BAFTA i Dr Jerry Hunter a’r Prifardd Ifor ap Glyn am y gyfres ddogfen, Cymry a Rhyfel Cartref America, a ddarlledwyd ddechrau’r flwyddyn ar S4C.

Darllenwch fwy:

http://www.bangor.ac.uk/news/BAFTAJerry.php.cy

Awst 2004: Coroni Jason yn Brifardd Casnewydd

Cafwyd dechrau ardderchog i Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd pan gyhoeddwyd mai Bardd y Goron oedd Dr Jason Walford Davies, Uwchddarlithydd o fewn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...

Mehefin 2004:  Jason a  Jerry – Gornest Llyfr y Flwyddyn

Mae dau o’r tri theitl ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2004 wedi eu hysgrifennu gan aelodau o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...