Congratulations to Sian Owen on her prize-winning poem in the 2008 Féile Filíochta 2008 poetry competition.
In April she will be attending the award ceremony in Ireland and receive a prize worth €1,000 for her Welsh poem. Féile Filíochta annually rewards poems in ten languages and this year over 4,000 entries were submitted.
Sian wrote about a girl in a manic state climbing onto the Menai Suspension Bridge after reading about the condition while researching for a novel. The poem ‘Drannoeth’ (lit. ‘The following day’) is presented from the perspective of the girl’s mother.
Drannoeth
Ac meddai’r meddyg wrthi,
“Dwêd beth ddigwyddodd ddoe.”
Ond nid yw ddoe ond un ddolen;
mae llawer mwy nag un i ben y bont.
Rhedodd hyd dair ar hugain
neithiwr, i ben y tŵr;
gwythiennau chwech o gledrau
dan ei throed yn arwain i’r gaer
a’n lleisiau o’r weilgi bell
yn galw arni i bwyllo.
Dringo hyd grib y delyn fetel
at un tant sy’n rhwd trosto.
Hwn yw’r nodyn mae hi’n ei daro:
sŵn enaid heb ei diwnio.
Dringo’n uwch at fwlb heb oleuo,
isio clocsio ar ei gwylfa gyfyng,
ar y dibyn
lle nad oes neb yn disgyn.
Disgord yn seiniau’r nos
hudodd y dref yn dyrfa;
un hedyn o drybini yn denu
tystion at ei herchwyn hi,
yno, uwchlaw ei chadwyni.
Lliaws mud i chwarae’u rhan:
gwyfynnod – hi’n oleuni ar lwyfan.
“Rhedaist i’r glaw…?”
Roedd o’n ffeind, yn procio’r cof;
iddi hi, ni ddigwyddodd.
Ond do, fy merch, bwriodd dy gyfeillion
berlau, diemyntau hyd fy ngruddiau.
Fe’u cynigiais yn glustog i ti,
rhois bryderon fy mynwes yn blu,
teflais f’yfory yn rhwyd rhwng y tyrau,
hyrddiais fy rhyddid yn rhaff.
Rydw i yma, gwaeddais. Yma i ti.
Mam. Yn y glaw.
“Daeth yr angylion ataf,” meddai hithau, o’r diwedd,
“a buom yn dawnsio. Fi a’r angylion.
Am dipyn bach.”
Sian is currently studying for a PhD in creative writing in the School of Welsh. This represents quite a change for her having originally graduated with a First Class Honours degree in Physics. Having worked as a producer with BBC and as an editor for scientific publications for WJEC, over ten years ago she returned to live in North Wales with her family and currently works as a freelance translator.
More details about the award may be found on the following website:
http://www.dlrcoco.ie/feile/index.html