UWB Crest

School of Welsh

Student Profiles

This content is currently only available in Welsh. More English language student profiles can be viewed here.

 

Llyr TitusLlyr Titus - Cymraeg

Mae Llyr Titus, 19, o Frynmawr ger Sarn. Mynychodd Ysgol Uwchradd Botwnnog ac yna Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Cafodd dair A* ac un A yn ei Lefel A ac enillodd Ysgoloriaeth Rhagoriaeth o £3,000.

Darllenwch ymlaen...

Katharine YoungKatharine Young - Ffrangeg a Chymraeg

Mae Katharine Young o Flaenau Ffestiniog yn ei hail flwyddyn yn astudio Ffrangeg a Chymraeg.

"Y peth gorau am astudio ym Mangor ydy’r gymdeithas glos sydd yn bodoli yn neuadd JMJ, y neuadd Gymraeg dwi’n byw ynddi ar hyn o bryd, ac yr oeddwn yn byw ynddi llynedd. Mae wedi bod yn brofiad gwych, a dwi di neud ffrindiau da iawn, mae’n ffantastig yma!"

Darllenwch ymlaen....

 

Sion Elwyn HughesSion Elwyn Hughes - Cymraeg

Mae Siôn Elwyn Hughes, 19 oed, o Fethel ger Caernarfon yn gyn ddisgybl Ysgol Brynrefail, Llanrug. Enillodd Ysgoloriaeth Rhagoriaeth yn 2010 am iddo dderbyn A* mewn Cymraeg a dwy A mewn Cerdd a Hanes yn ei Lefel A. Mae Sion nawr yn ei flwyddyn gyntaf o gwrs gradd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mangor.

Darllenwch ymlaen...

 

Eurgain Ebrill Owen - Cymraeg a Hanes

Mae Eurgain Ebrill Owen, yn wreiddiol o Lanrwst, yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg a Hanes.

Dwi wrth fy modd yma, cael byw gyda ffrindiau mewn cymuned glos Gymraeg, ond mewn neuadd gyda’r cyfleusterau gorau. Mae’r ffaith ein bod ni ar safle ffriddoedd hefyd yn arbennig o dda gan fod yna gymaint o gyfleusterau gwych ar y campws, fel Maes Glas a Bar Uno.

Darllenwch ymlaen...

 

Rhian Elin George

image of rhianMae Rhian Elin George, o Frynrefail, yn astudio gradd cyd anrhydedd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg. Enillodd ysgoloriaeth gan Prifysgol Bangor i astudio’r cwrs hwn.

"Mae sawl mantais o astudio yn y Gymraeg. I mi’n bersonol, nid oedd astudio mewn unrhyw iaith arall yn opsiwn gan fy mod wedi cael fy addysg i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg ers pan oeddwn yn bedair mlwydd oed."

Darllenwch ymlaen.....