UWB Crest

Ysgol y Gymraeg

Llyr Titus - Cymraeg

Llyr TitusMae Llyr Titus, 19, o Frynmawr ger Sarn. Mynychodd Ysgol Uwchradd Botwnnog ac yna Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Cafodd dair A* ac un A yn ei Lefel A ac enillodd Ysgoloriaeth Rhagoriaeth o £3,000.

Pam dewis Bangor?

Des i wybod am y brifysgol drwy’r coleg ac yma yr oeddwn yn teimlo’n fwyaf bodlon

Y cwrs...

Dwi’n ei fwynhau o’n arw- mae o’n ddifyr iawn dwi’n mwynhau rhyddiaith yr oesoedd canol yn enwedig.

Yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth

Rwyf yn cael £3,000 a gobeithaf y bydd hi o gymorth i mi dalu fy nyledion a mynd ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Tŷ Newydd. Dwi’n falch iawn o gael yr ysgoloriaeth a dwi'n sicr y byddai yn mwynhau fy amser yma ym Mangor.

Bywyd ym Mangor...

Dwi’n mwynhau bod yn fyfyriwr yma’n ofnadwy a dwi’n aelod o UMCB