Mae Rhian Elin George, o Frynrefail, yn astudio gradd cyd anrhydedd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg. Enillodd ysgoloriaeth gan Prifysgol Bangor i astudio’r cwrs hwn.
Beth yw’r pethau gorau am y cwrs?
Rwyf yn cael y gorau o ddau fyd drwy astudio gradd cyd anrhydedd. Rwy'n cael y cyfle i astudio theoriau cymdeithasegol yn ogystal ac astudio gwahanol nofelau yn y Gymraeg. Mae’n gwrs delfrydol i rhywyn fel fi sydd yn wrth ei bodd yn darllen ac yn dadansoddi pobl a'r gymdeithas!
A wyt wedi bod ar unrhyw leoliadau gwaith?
Fel rhan o'r cwrs Cymdeithaseg bues yn ddigon ffodus i gael chwech wythnos o brofiad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru. Fel rhan o'r profiad cefais gyfle i arsylwi sawl agwedd o waith yr heddlu. Cefais hefyd y cyfle i ymweld ag adran hofrenydd yr heddlu, treulio diwrnod yn y llysoedd a gwylio'r heddlu arfog yn hyfforddi! Roedd y profiad yma yn agoriad llygad i mi ac yn sicr rwyf yn mynd i elwa yn fawr o'r profiad yn y dyfodol.
Yn dy farn di, beth yw’r manteision o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae sawl mantais o astudio yn y Gymraeg. I mi’n bersonol, nid oedd astudio mewn unrhyw iaith arall yn opsiwn gan fy mod wedi cael fy addysg i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg ers pan oeddwn yn bedair mlwydd oed. Yn aml iawn, mae’r niferoedd o fyfyrwyr sydd mewn darlithoedd Cymraeg yn llai, ac o ganlyniad, mae'r awyrgylch yn llawer iawn mwy cartrefol gyda'r myfyrwyr yn teimlo’n mwy hyderus i drafod pynciau mewn seminarau.
Disgrifia’r ysgol academaidd…
Y peth gorau am yr ysgolion academaidd rwy'n mynychu yw eu bod yn ysgolion bach, lle mae pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd.
Beth yw’r peth gorau am fyw ym Mangor?
Byw a chymdeithasu efo ffrindiau gwych, gyda peint neu ddau yn nhafarn y Glôb ac yn Clwb Cymru!
Beth fyddi di yn ei fethu fwyaf am Fangor ar ôl gadael?
Dwi ddim eisiau gadael Bangor! Y peth mwyaf dwi am fethu ydi’r tripiau i'r Eisteddfod, Y Ddawns Rhyn-golegol, nosweithiau yn y Glôb a’r Tripiau Rygbi!!