Enw:
Swydd:
Ebost:
Lleoliad:
Ysgol y Gymraeg, Ystafell 6, Coridor yr Athrawon
Ffon:
Cefndir
Magwyd ym Methel, Caernarfon. Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ac enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Bu’n darlithio yn y Gymraeg a’r Almaeneg ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd a Fienna. Ymunodd â staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn 2006.
Rhyddiaith y cyfnod modern yw ei phrif ddiddordeb ymchwil: cyhoeddwyd ei monograff ar yr awdur Robin Llywelyn yn 2000 a’i hastudiaeth o ffuglen Gymraeg y 1990au, Rhwng Gwyn a Du, yn 2002. Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth fer ar y Cymry alltud yn yr Eidal adeg Elisabeth I. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau astudiaeth ar waith T.H. Parry-Williams a Moderniaeth.
Mae Angharad hefyd yn llenor creadigol. Cyhoeddodd stori fer hir o’r enw
Tania’r Tacsi yn 1999. Yn 2002 enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi gyda’r nofel
O! Tyn y Gorchudd, cyfrol a enwyd yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Cyfieithwyd y nofel i’r Saesneg gan Lloyd Jones dan y teitl,
The Life of Rebecca Jones, ac mae’r nofel wreiddiol ar gael ar CD yng nghyfres Llyfrau Llafar. Yn 2010 cyhoeddodd Angharad ei thrydedd gyfrol,
Caersaint, nofel gyfoes a ysbrydolwyd gan dref Caernarfon. Cyrhaeddodd y nofel hon restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011
Dysgu
- Llên Gyfoes (Lefel 1)
- Theatr Fodern Ewrop (Lefel 1)
- Yr Iaith ar Waith (Lefel 1)
- Ymarfer Ysgrifennu (Lefel 2)
- Rhyddid y Nofel (Lefel 2 a 3)
- Gweithdy Rhyddiaith (Lefel 2 a 3)
- Y Theatr Gymraeg Fodern (Lefel 2 a 3)
- Clasuron y Theatr (Lefel 2 a 3)
- Traethawd Estynedig (Lefel 3)
Cyfrifoldebau
- Uwch Diwtor Bugeiliol
- Tiwtor yng ngofal anabledd
- Tiwtor yng ngofal Iechyd a Diogelwch
- Cydlynydd yr Wythnos Groeso
- Cydlynydd yr Arweinwyr Cyfoed
- Cynrychiolydd Dysgu ac Addysgu
Meysydd Ymchwil
- Rhyddiaith y cyfnod modern
- Y Dadeni
- Ysgrifennu creadigol
- Theori lenyddol
- Astudiaethau cyfieithu
- Llenyddiaeth gymharol
Gwobrau
- Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis 1995
- Y Fedal Ryddiaith 2002
- Llyfr y Flwyddyn 2003
Prif gyhoeddiadau
Cyfrolau academaidd
- Smentio Sentiment - Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964 (Cyfres Cynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis) (Aberystwyth: Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1996), 63.
- Robin Llywelyn (Cyfres Llên y Llenor) (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2000), 64.
- Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002), 192.
- Chwileniwm: Technoleg a Llenyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002), 234.
- Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Cyfres Llên y Llenor) (Caernarfon: Gwasg y Bwthyn, 2005), 96.
Cyfrolau creadigol
- Tania’r Tacsi (Llandysul: Gwasg Gomer, 1999), 103.
- O! Tyn y Gorchudd: Hunangofiant Rebecca Jones (Llandysul: Gwasg Gomer, 2002), 152.
- Caersaint (Talybont: Y Lolfa, 2010), 379
- The Life of Rebecca Jones / O! Tyn y Gorchudd, cyf. gan Lloyd Jones (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), 202
Erthyglau academaidd
- 'Cyfoeth Cyfieithu', Taliesin (Gaeaf 1997), 11-39.
- 'Y Gymraeg: Iaith sy’n Swcro Gwrywdod?', Tu Chwith (Mai 1998), 94-114.
- 'Travelling on the Word-Bus: Gwyneth Lewis's Welsh Poetry', PN Review (May 1999), 49-51.
- 'Mythau Cenedlaethol yn Llenyddiaeth Ddiweddar Ewrop', Y Traethodydd (Ebrill 1999), 101-113
- 'Chwarae geiriau fel gwyddbwyll: Barddoniaeth Gymraeg Gwyneth Lewis', Taliesin (110), 113-25.
- 'Robin Llywelyn: Cyfarwydd ac Anghyfarwydd', yn John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffurfafen y Nofel Gymraeg Ddiweddar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000), 192-211.
- 'Writing on the edge of catastrophe', yn Christopher Meredith (gol.), The Literary Review: Re-Imaging Wales (Dickinson University, New Jersey) (Winter 2001), 372-80.
- 'Ar drywydd y "bigel phyrnig" – golwg ar fywyd a gwaith Morys Clynnog', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (2003), 15-32.
- 'Tan Frig y Gwinwydd: Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal', yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX (Llandysul: Gwasg Gomer, 2004), 37-68.
- ‘Borshiloff’, yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2006), 137-51.
- ‘John Rowlands: y beirniad bydol’, Ysgrifau Beirniadol XXVII, gol. gan Gerwyn Wiliams (Llandysul: Gwasg Gee, 2007), 50-72.
- ‘T. H. Parry-Williams, Freiburg a Freud’, Llenyddiaeth mewn Theori, cyfrol 1, gol. gan Owen Thomas (Llandysul: Gwasg Gomer, 2007), 107-122.
- ‘Monica mewn Cyffion’, Ysgrifau Beirniadol XXIX, gol. gan Gerwyn Wiliams (Llandysul: Gwasg Gee, 2010), 78-99.
Ysgrifau
- ‘Mynydd Tynybraich’, Y Mynydd Hwn (Llandysul: Gwasg Gomer, 2005), 3-11
- ‘Mynydd Tynybraich’, On This Mountain (Llandysul: Gwasg Gomer, 2007), 3-11; hefyd yn Archipelago, 1 (Summer 2007), 31-36
Holi Angharad Price
Enghreifftiau o waith Angharad
O! Tyn y Gorchudd
Er mwyn clywed addasiad Radio Cymru o nofel Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd, cliciwch isod. Llais yr actores a'r gantores o Faldwyn, Sian James, a glywir yn yr addasiad hwn a ddarlledwyd gyntaf yn Chwefror 2007. Cydnabyddir yn ddiolchgar ganiatad BBC Cymru i gynnwys y cyfeiriad hwn.
'Monica mewn Cyffion'
- Er mwyn clywed Angharad Price yn trafod y nofel Monica gan Saunders Lewis, gyda Dei Tomos, cliciwch isod.
'Mynydd Tynybraich'