UWB Crest

Ysgol y Gymraeg

Cyflwyniad i ymchwil

Image of the Main Arts building on the hillside overlooking Bangor

Yn ystod cyfnod yr Ymarfer Asesu Ymchwil presennol, bu datblygiadau sylweddol o fewn Ysgol y Gymraeg. Yn unol â’r dystiolaeth a geir ar ffurf gwobrau a grantiau o bwys ar gyfer ymchwil, rydym wedi parhau i wneud cynnydd er YAY2001. O fewn Astudiaethau Celtaidd, mae astudiaeth y Gymraeg yn parhau’n brif ganolbwynt i’n sylw. Ar yr un pryd, rydym wedi ehangu rhychwant ein gweithgareddau ac, er mwyn datblygu ein maes pwnc mewn amgylchedd ymchwil sy’n prysur newid, rydym wedi ymdrechu er 2001 i gyrraedd pedwar nod strategol.

  1. Er inni ddiogelu unplygrwydd ysgolheigaidd ein maes pwnc, buom wrthi’n annog dulliau o ymchwil sy’n croesi ffiniau traddodiadol yn pwnc ac yn ei osod o fewn fframweithiau cysyniadol a theoretig newydd.
  2. Rydym wedi anelu at ddatblygu isadeiledd ymchwil sy’n sicrhau bod Bangor yn parhau’n flaengar o ran syniadau newydd a dadl ysgolheigaidd.
  3. Buom wrthi’n defnyddio grantiau allanol i greu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil ac i ymhél â phrojectau ar raddfa fawr, gan lwyddo yn hyn o beth.
  4. Rydym wedi ymdrechu i drawsnewid cysylltiad tymor hir aelodau unigol o staff ag ysgrifennu creadigol, a’i ddatblygu’n rhan integredig a dynamig o fywyd ymchwil yr Ysgol. Yn hyn o beth, rydym wedi cael budd mawr er 2001.

Mae cyfran sylweddol o’n cynnyrch ymchwil yn deillio o waith sy’n cael syniadau o feysydd cyfagos o astudiaeth ac ymdriniaethau theoretig newydd; mae’r cynadleddau traws-ddisgyblaethol a gynhelir yn aml ym Mangor, ynghyd â’i rhwydweithiau rhyngwladol trwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wedi creu llwyfannau newydd ar gyfer rhyngweithio a dadlau; cipiwyd llawer mwy o grantiau; ac rydym wedi gwireddu ein gobeithion yng nghyswllt ysgrifennu creadigol trwy benodiad newydd s thrwy raglen helaeth o seminarau a chynadleddau, ynghyd â datblygiadau ar lefel ôl-radd. O ganlyniad, mae ein hamgylchedd ymchwil dipyn cryfach nag yn 2001.

Yn y cyfnod YAY hwn, mae’r Ysgol wedi gwella ei chryfderau ymchwil a dilyn ei hamcanion strategol trwy arweinyddiaeth yr Athrawon Peredur I. Lynch a Gerwyn Wiliams (y ddau wedi cael Cadair bersonol yn 2005). Yn 2006, daeth y Ganolfan Astudiaethau Enwau Lleoedd (yr Athro Hywel Wyn Owen fel Cyfarwyddwr) yn rhan gyflawn o’r Ysgol. Nodwyd yr enw da yr Dr Jason Walford Davies wrthi’n ei ennill (is-ddarlithydd oedd ef yn YAY2001) trwy ei benodiad i swydd Uwch Ddarlithydd yn 2003. Yn sgil ymddeoliad Dafydd Glyn Jones (2001) a’r Athro Branwen H. Jarvis (2004), ac adleoliad Dr William R. Lewis (2006) o fewn Bangor, bu modd penodi tri aelod staff newydd. Mae Dr Jerry Hunter (Darllenydd) a Dr Angharad Price (Uwch Ddarlithydd) yn ysgolheigion penigamp sydd wedi hyrwyddo mentrau newydd o bwys ym maes llenyddiaeth Gymraeg fodern gynnar a modern. Mae Dr Angharad Price hefyd yn ymarferydd creadigol o fri. Mae ymrwymiad yr Ysgol i gynnal rhychwant amseryddol eang ac i wella gyrfaoedd ysgolheigion iau wedi’i wireddu gyda phenodiad arbenigwr yn y canol oesoedd, sef Dr Sara Elin Roberts, i ddarlithydd (2006).

Bu’r Ysgol â lle canolog mewn sawl datblygiad rhyng-ddisgyblaethol o fewn y Brifysgol. Cafwyd cryn gynnydd mewn cydweithrediad ag Ysgolion eraill ar gyfer Ymchwil er 2001, yn sgil sefydlu Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau (CCD) a thrwy dair o’i chanolfannau ymchwil traws-ddisgyblaethol, sef Sefydliad Cymru ar Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (SCAFCAD/WISCA), y Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth yn y Diwydiannau Creadigol, a Chanolfan Astudiaeth R.S. Thomas. Mae Dr Jerry Hunter yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar WISCA er 2005 ac mae’n arwain grŵp ymchwil ar Ddiasborâu o Gymru. Bu’r Athro Peredur Lynch yn chwarae rôl strategol yn sefydliad WISCA, a chyda Dr Sara Elin Roberts, mae’n ffigur allweddol mewn gweithgareddau sy’n cwmpasu canoloeswyr o Hanes a Cherddoriaeth. Mae Dr Jason Walford Davies yn gyd-gyfarwyddwr ar Ganolfan Astudiaeth R.S. Thomas, ac mae Dr Angharad Price a’r Athro Gerwyn Wiliams wedi chwarae rôl allweddol yn natblygiad NIECI.

Mae ein cynadleddau a’n seminarau wedi ategu pedwar maes cyffredinol ein gweithgaredd ymchwil; mae natur draws-ddisgyblaethol llawer o’r gweithgaredd hwnnw wedi arwain at feithrin dulliau newydd.

Mae penodiad Dr Sara Elin Roberts wedi ehangu gwaith yr Athro Peredur Lynch yn y maes hwn. Fel ymchwilydd a hefyd fel golygydd yn ei rhinwedd ei hun, bu’n cyfrannu’n sylweddol at broject wedi’i leoli yn Abertawe, dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a arweiniodd at greu fersiwn electronig cyntaf barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (http://www.dafyddapgwilym.net). Mae hi wedi cyhoeddi mwy o astudiaethau ar y bardd yn Dwned (2005) ac yn Llên Cymru (2005). Cafodd astudiaeth yr Athro Peredur Lynch ar gynghanedd Dafydd ap Gwilym fudd o ganfyddiadau cynnar yr un project, ac mae’n dangos ymwybyddiaeth arloesol o bwysigrwydd y traddodiad llawysgrifol yn astudiaeth cynghanedd yr oesoedd canol. Testun Dr Sara Elin Roberts, The Legal Triads of Medieval Wales (2007), a enillodd Wobr David Yale Cymdeithas Selden yn 2007 yw’r cyfraniad testunol mwyaf sylweddol ers y 1970au tuag at astudiaeth cyfraith ganoloesol Cymru, ac mae hi wedi cyhoeddi astudiaethau eraill yn Studia Celtica (2001), y Journal of Celtic Studies (2004) a Chylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (2002). Gan dynnu ar gorff helaeth o dystiolaeth destunol, hanesyddol, gyfreithiol, llenyddol a meddygol, mae traethawd yr Athro Peredur Lynch ar Gruffudd ap Llywelyn a Dafydd ap Llywelyn yn cynnig ail-asesiad ar farddoniaeth y Gogynfeirdd yng nghyswllt olyniaeth linachyddol yng Ngwynedd y 13eg ganrif. Mae ffrwythau cyntaf ei broject dan nawdd CYCD, ar ddarogan ganoloesol a modern cynnar, hefyd wedi’u cyhoeddi mewn papur sy’n trafod y ddarogan yng Nghymru yng nghyd-destun dadleuon theoretig ar yr astudiaeth o genedlaetholdeb. Pery ysgolheictod testunol yn faes pwysig o waith ôl-radd, ac mae’r cyfraniadau mwyaf nodedig er 2001 yn cynnwys argraffiad Dr Einir Gwenllïan Thomas o destunau amrywiol Statud Gruffudd ap Cynan ac argraffiad Dr Richard Glyn Roberts o ddiarhebion Llyfr Coch Hergest. Yn y dyfodol, bydd ‘Cronfa Baledi’ yn cynorthwyo gyda phrojectau ôl-radd cyfredol yr Ysgol ar anterliwtiau a baledi (http://www.e-gymraeg.org/cronfabaledi), cronfa ddata electronig o faledi’r 18fed ganrif a luniwyd gan yr athro Peredur Lynch, gan gydweithredu â Dr E. Wyn James (Prifysgol Caerdydd).

Mae Cronfa Ddata’r Athro Hywel Wyn Owen ar Enwau Lleoedd wedi gosod yr astudiaeth ar enwau lleoedd ar sylfaen newydd (http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/). Lansiwyd hi yn 2005, yn dilyn project 3 blynedd dan Gynllun CYCD ar gyfer Gwella Adnoddau, ac mae astudiaeth achos yr Athro Owen ar y ffurf Bala a’i astudiaeth ar enwau lleoedd yng nghymydau Prestatyn a Rhuddlan yn dangos posibiliadau’r gronfa ddata o ran ymchwil. A hithau wedi’i chydnabod gan yr Archifau Cenedlaethol fel enghraifft o’r ymchwil ymarferol orau, mae wedi’i  hymgorffori i broject yr Archifau Cenedlaethol eu hunain, dan nawdd yr ESRC, ar gofnodion ar drethiant yng Nghymru (a drefnir gan Nia M. Powell o Ysgol Hanes Bangor). Y gronfa ddata yw sail Dictionary of the Place-Names of Wales (2007) gan yr Athro Owen. Gyda chefnogaeth grant Gwella Ymchwil gan CYCD, hwn yw’r gwaith cyhoeddedig mwyaf cynhwysfawr o’i fath, sef y cyfeirlyfr safonol ar gyfer y blynyddoedd a ddêl.

Mae cyfrol Dr Jason Walford Davies sydd wedi cael canmoliaeth fawr, Gororau’r Iaith – astudiaeth ar ddylanwadau’r traddodiad llenyddol Cymraeg ar farddoniaeth R.S. Thomas a’i olwg ar y byd – yn llawn dychymyg wrth herio’r ddeuoliaeth draddodiadol sy’n gysylltiedig ag astudio’r llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg sy’n dod o Gymru. Mae hefyd wedi golygu dau gasgliad sylweddol o draethodau sy’n cynnwys cyfraniadau o bwys at ymchwil yn ymwneud â barddoniaeth Waldo Williams. Mae’r cyntaf yn cyhoeddi ailsefydliad ffurf yr astudiaeth mewn beirniadaeth Gymraeg, a’r ail yn gymhwysiad eclectig ar ddadansoddiad testunol a theorïau eco-feirniadol diweddar yng nghyswllt barddoniaeth ddiweddarach Williams. Gwaith yr Athro Gerwyn Wiliams ar yr ymateb llenyddol yng Nghymru i ryfel oedd yr astudiaeth thematig fwyaf uchelgeisiol o’i math a wnaethpwyd erioed ym maes llenyddiaeth Gymraeg fodern, ac mae wedi’i  goroni gan ddau waith, sef Tir Newydd ac astudiaeth arloesol ar yr ymateb a fu yng Nghymru, mewn llenyddiaeth ac yn y cyfryngau mwy poblogaidd, i ryfel y Malvinas/Falklands. Yn sgil y gwaith hwn, gwahoddwyd yr awdur i gyfrannu at The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry (2007), ac mae cyfraniad ar Americana ym marddoniaeth yr Athro Emeritws Gwyn Thomas yn dystiolaeth ychwanegol o’i ddiddordeb yn rhyngweithiad diwylliant ‘uchel’ a ‘phoblogaidd’. Mae’r Athro Peredur Lynch hefyd wedi cyhoeddi arolwg ar lenyddiaeth Gymraeg yr 20fed ganrif sy’n dangos ymwybyddiaeth graff o’r cyfyngiadau beirniadol sy’n gysylltiedig â gosod llenyddiaeth Gymraeg fodern mewn perthynas â theithi llenyddiaeth Eingl-Americanaidd gymharol amlwg.
Mae Dr Jerry Hunter wedi atgyfnerthu’r diddordeb hwn. Mae wedi agor maes ymchwil newydd ar gyfer Bangor, gyda thri llyfr ar ddiasbora’r Cymry yng Ngogledd America. Mae Sons of Arthur, Children of Lincoln yn enghraifft rymus o hanes llenyddol o’r gwaelod. Gan ddefnyddio barddoniaeth, dyfyniadau o ddyddiaduron, llythyrau a chroniclad, mae’n edrych ar y modd y sefydlwyd hunaniaeth Gymreig-Americanaidd, ynghyd â’r ideolegau a oedd y tu ôl i gymathiad ieithyddol, diwylliannol a gwleidyddol. Mae ei lyfr ar y diddymydd Robert Everett a’i bennod ar ddelwedd America mewn llenyddiaeth Gymraeg fodern yn cynnwys mwy o astudiaeth ar y themâu hynny.

Mae Dr Jerry Hunter a Dr Angharad Price hefyd yn atgyfnerthu diddordeb yr Ysgol mewn dulliau theoretig a’r modd y cymhwysir hwy. Mae cyfraniad Dr Jerry Hunter at ddadleuon ynglŷn â chyfeiriadau beirniadaethau Cymraeg yn y dyfodol (e.e. yn Y Traethodydd (2002)) yn cadarnhau ei swyddogaeth flaenllaw yn y maes. Mae Dr Angharad Price wedi golygu casgliad o draethodau ar lenyddiaeth a thechnolegau cyfathrebu, sef Chwileniwm, Technoleg a Llenyddiaeth (2002), tra bo ei chyfrol Rhwng Gwyn a Du yn astudiaeth ar y berthynas rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yn y Gymru sydd ohoni sy’n cael syniadau o draddodiadau theoretig yn amrywio o ffurfioldeb Rwsiaidd hyd at theori derbyniaeth o’r Almaen. Mae ei sensitifrwydd wrth archwilio’r graddau y gellir cymhwyso theori ôl-wladychol at gyd-destunau Cymreig wedi’i ardystio mewn pennod ar T.H. Parry-Williams.

Mae Dr Angharad Price a Dr Jerry Hunter ill dau’n rhychwantu dros gyfnodau wrth gymhwyso syniadau newydd at eu gwaith. Mae astudiaeth Hunter ar ymatebion Elis Gruffydd i eilunaddoliad yn enghraifft o hynny. Ymestyn y mae diddordebau Angharad Price o’r cyfnod modern cynnar hyd at y presennol, ond dan ddylanwad diddordeb sylfaenol mewn llenyddiaeth fel naratif cenedlaethol. Mae ei gwaith ar lenyddiaeth Gymraeg a’r Gwrth-ddiwygiad yn seiliedig ar ddeunydd archifol newydd o bwys o Lyfrgell y Fatican, a’i monograff yn y maes hwn yn cwestiynu o’r newydd deleoleg Brotestannaidd sydd wedi cael y lle blaenaf yn yr astudiaeth ar hunaniaeth genedlaethol yn y Gymru fodern gynnar.

Bu recriwtio Dr Angharad Price (nofelydd) yn bwysig wrth inni hyrwyddo ein hamcanion strategol yn y maes hwn. Ar yr ochr greadigol, mae Bangor ers tro yng nghalon bywyd llenyddol yng Nghymru ac, er 2001, trwy gyfres bwrpasol o gynadleddau, seminarau a gweithgareddau eraill, yn cynnwys y ddarpariaeth unigryw o ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg ar lefel PhD, rydym wedi gosod yr ymrwymiad hwnnw ar sylfaen newydd. Ar ben hynny, gan gydweithredu â NIECI, Asiantaeth Llenyddiaeth Gymraeg Dramor, a’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, rydym wedi’n sefydlu ein hunain fel rhyngwyneb rhwng ymarfer creadigol yng Nghymru a chynulleidfa ryngwladol ehangach. Sicrhaodd Dr Angharad Price ei safle fel ffigur blaenllaw ymysg awduron Cymraeg newydd gyda’i hail nofel, sef O! Tyn y Gorchudd, a enillodd ‘statws clasurol’ bron ar unwaith. Yn 2002, hi oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i gael ei dewis gan Scritture Giovani, menter a noddwyd gan Raglen Ddiwylliannol yr Undeb Ewropeaidd yn 2000, gyda’r bwriad o hyrwyddo awduron ifainc. Mae’r gerdd hir ‘Egni’ (a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004) yn crynhoi barddoniaeth arobryn Dr Jason Walford Davies. Mae’n goffâd, gan ddwyn i gof streic genedlaethol y glowyr ym 1984-5, ac yn ddadansoddiad cymdeithasol graff o dde Cymru yn yr oes ôl-ddiwydiannol, ac fe’i disgrifiwyd fel cerdd sy’n cynrychioli ail-ddarganfyddiad o ysgrifennu ysgolheigaidd mewn barddoniaeth Gymraeg (Gwynn ap Gwilym, Barddas, 279). Mae Tafarn Tawelwch gan yr Athro Gerwyn Wiliams – a nodweddir gan yr hyn a nodwyd fel pwyslais gwrth-delynegol wedi’i gymell gan Adorno ac a ysgrifennwyd ar ddechrau mileniwm newydd – yn feirniadaeth rannol ar y pentref byd-eang ar ôl 9/11, ac yn rhannol yn ddathliad petrus o fod yn rhiant.