Teyrngedau 2014

Dr Terry Roberts

Cwblhaodd Terry Roberts ei ddwy radd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Yn 1967 gadawodd am ogledd America fel llawer o bobl ifanc ddisglair y cyfnod, lle gwnaeth ymchwil ôl-ddoethurol yn Case Western Reserve University, Cleveland, Ohio.  Dychwelodd i Brydain i wneud rhagor o ymchwil yn St Andrews, Yr Alban. Ymunodd â Shell Research yn 1969 yn eu canolfan ymchwil yn Sittingbourne yn yr Isadran Cemeg Ddadansoddol, lle arhosodd am yr ugain mlynedd nesaf. Roedd y ddau ddegawd yma'n gyfnodau o lwyddiant, arloesi a chynhyrchedd mawr wrth i'r labordai ymchwil ddarganfod, datblygu, masnacheiddio a darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer naw o agrocemegau newydd (tri llyswenwyn grawnfwyd, llyswenwyn india-corn, pedwar pryfleiddiad aml-gnwd sbectrwm eang a gwenwyn llygod ar gyfer rheoli plâu yn broffesiynol).

Bu i Terry a'i dîm chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r holl gynhyrchion hyn yn llwyddiannus, drwy wneud astudiaethau hollbwysig o waddodion. Mae'r broses Reoleiddiol ar gyfer datblygu agrocemegau yn feichus, yn ddrud (£50 miliwn) ac yn cymryd llawer o amser (10 mlynedd). Mae'r gofynion technegol yn enfawr gyda safonau hynod o uchel – dadansoddodd Terry a'i dîm filoedd ar filoedd o samplau o gnydau, pridd a dŵr o bob rhan o'r byd i sicrhau bod gwaddodion o dan lefel statudol ddiogel.  Roedd yn rhaid iddynt wneud y gwaith i safonau neilltuol o gywirdeb gan ddefnyddio'r fethodoleg a'r offer diweddaraf, gyda Terry ei hun wedi helpu i ddatblygu a gweithredu'r rhain.  Ni fu'n hir yn creu enw da iddo'i hun yn rhyngwladol am ansawdd a rhagoriaeth ei waith.  Cyflwynodd bapurau, ysgrifennodd a chloriannodd bapurau gwyddonol ar gyfer cyfnodolion a adolygwyd gan gydweithwyr, a golygodd sawl llyfr ar swyddogaeth senobiotigion mewn amaethyddiaeth; llyfrau a ystyrir yn weithiau cyfeiriadol hollbwysig (gwelwch ‘The Metabolic Pathways of Agrochemicals’ a gyhoeddwyd gan yr RSC).  Yn un o'u cyfarfodydd diweddar, bu i'r 'British Crop Production Council' dalu teyrnged iddo a chyfraniad sylweddol ei waith.

Roedd y 'Sittingbourne Research Centre' yn adnabyddus yn fyd-eang ac yn gyfleuster ymchwil uchel ei barch ar gyfer arloesi ym maes agrocemegau. Mae llawer o academyddion yn edrych i lawr eu trwynau ar ymchwil ddiwydiannol, gan ei hystyried yn israddol i academia.  Fodd bynnag, cyflogodd safle Sittingbourne lawer o wyddonwyr o fri byd-eang mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddonol (yn cynnwys Syr John Cornforth a dderbyniodd wobr Nobel am gemeg am y gwaith a wnaeth yn Sittingbourne). Roedd Terry ymhlith y gwyddonwyr dylanwadol hyn. .

Ar ôl gadael Shell, symudodd Terry i swydd uwch reolwr yn Hazelton Laboratories (labordy contract yn Harrogate a oedd yn gwneud gwaith ym maes cemeg ddiwydiannol). Yn dilyn hyn sefydlodd labordy ymchwil gontract arall ar gyfer JSC, cwmni Americanaidd bychan, hefyd yn Harrogate.

Ar ôl ymddeol, dychwelodd Terry i ogledd Cymru, gan fyw ym Mhentre Berw ar Ynys Môn lle helpodd Prifysgol Bangor gydag aduniadau myfyrwyr. Roedd hefyd yn mwynhau canu clychau a thyfu ei lysiau ei hun. Roedd Terry yn gymeriad tawel, gwylaidd. Roedd yn ŵr dymunol iawn ac yn cael ei edmygu'n helaeth am ei allu technegol a gwyddonol. Gwelir colled fawr ar ei ôl gan Lynn, ei wraig am 47 o flynyddoedd hapus, tri o blant a dau o wyrion a Sophie (ei ddaeargi Dandie Dinmont).

Roger Turner (Ph. D Botaneg Amaethyddol, 1967)

 

Alan Lloyd Marsh

Ganwyd a magwyd Alan ym Mryste, yn fab ieuengaf i Thomas ac Alice.  Ar ôl bod mewn ysgol baratoi, aeth i ysgol ramadeg ym Mryste. Yn ystod y cyfnod hwnnw dechreuodd dyfu llysiau mewn rhandir, a dyna oedd dechrau diddordeb mewn garddwriaeth ac amaethyddiaeth a barodd ar hyd ei oes.  Astudiodd Alan sŵoleg ac amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1948 a 1952.   Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu'n ymwneud llawer â chwaraeon ac roedd yn gapten athletau yn ei flwyddyn olaf.  I nodi hynny,  rhoddodd Alan gwpan am gystadlaethau taflu i'r brifysgol yn ddiweddar, er ei fod yn siomedig pan ddaeth i wybod nad oedd neb wedi gwella'n sylweddol ar ei record am daflu maen na'i record am daflu disgen dros y blynyddoedd.

Ar ôl graddio, treuliodd Alan ei gyfnod o wasanaeth cenedlaethol yn Fienna, cyn dechrau ar ei yrfa fel ymgynghorydd amaethyddol.  Dechreuodd weithio yn Swydd Henffordd, lle cyfarfu ei wraig, Eileen.  Ymgartrefodd y ddau yn Swydd Lincoln, lle ganwyd dwy ferch iddynt, Rachel ac Elizabeth.  Ar ôl degawd yng Ngogledd Efrog, dychwelodd y teulu i Swydd Henffordd ym 1980.  Ymddeolodd Alan o'r gwasanaeth sifil ym 1987.  Llanwodd ei ymddeoliad hir ag amrywiol weithgareddau, yn cynnwys garddio, gwneud gwin, gwrando ar gerddoriaeth glasurol, siarad Almaeneg a gofalu am ei bortffolio o stociau a chyfranddaliadau.  Bu farw Alan ar 11 Rhagfyr 2013, bu'n palu yn yr ardd bedwar diwrnod ynghynt.

 

Roger Turner

Mi wnes i gyfarfod Roger i ddechrau yn 1967 pan ymunodd â chanolfan ymchwil amaethyddol Shell yn Sittingbourne. Roedd Roger wedi graddio o Nottingham a newydd gwblhau ei PhD ym Mangor. Gwnaeth gais i Shell ar ôl bod mewn darlith ym Mangor gan Brian Beechey o Sittingbourne am ffosfforyleiddiad ocsidiol. Daeth Roger i'r casgliad mae'n rhaid bod Sittingbourne yn lle da i weithio os oedd y math yma o ymchwil yn cael ei gwneud yno.

Roedd yn glir bod Roger yn wyddonydd da iawn. Roedd ganddo egni diddiwedd, ac roedd yn mynegi ei farn yn glir iawn. Buan y bu i Roger ganfod ei hun gyda mwy o gyfrifoldebau mewn ymchwil i chwynladdwyr a'u datblygu. Enillodd barch eang iawn ac arweiniodd hyn at benodiad yn 'Agrochemical Marketing Division' Shell yn Llundain, ac o ganlyniad, gweithio ar y pum cyfandir. Yn ystod y cyfnod hir hwn yn Shell, dangosodd Roger allu rhyfeddol i fynd i'r afael ag amrywiaeth eang iawn o ddisgyblaethau a chefndiroedd. Roedd ganddo feddwl agored iawn ac ychydig iawn a allai gyfathrebu mor rhwydd ar draws disgyblaethau a graddfeydd amser, o fainc y labordy i ddefnydd masnachol.

Gadawodd Roger Shell yn 1988 ac ymunodd â Fisons fel Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, Garddwriaeth, lle'r oedd yn gyfrifol am gynhyrchion newydd ar gyfer Gogledd America ac Ewrop.   Bu Roger gyda Fisons am tua 10 mlynedd ac yn niwedd y 1990au daeth yn Brif Weithredwr y 'British Society of Plant Breeders'. Yma bu iddo wynebu dau fater o bwys: hadau cadw ar ffermydd a chnydau wedi eu haddasu'n enynnol.
Roedd yn gadeirydd grŵp traws-ddiwydiannol (SCIMAC) yn cynnwys ffermwyr, tyfwyr planhigion, masnachwyr hadau a chwmnïau biotechnoleg.   Yr oedd hefyd yn aelod o Gomisiwn Biotechnoleg Amgylcheddol ac Amaethyddol y Llywodraeth. Roedd cyffyrddiad ysgafn Roger yn aml yn tawelu sefyllfaoedd anodd wrth ymdrin â gweinidogion anodd y llywodraeth, gweithredwyr gwrth-GM a chyfryngau anghyfeillgar.

Ar ôl ymddeol o'r 'British Society of Plant Breeders', defnyddiodd Roger ei brofiad gyda gweithgareddau cysylltiedig. Roedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Rothamsted ac ar Fyrddau Golygyddol sawl cyfnodolyn gwyddonol, yn cynnwys 'Outlooks in Pest Management', 'Crop Protection' a 'World Agriculture'.

Roedd yn alumnus ymroddgar Prifysgol Bangor ac yn cymryd rhan weithgar hyd at y diwedd wrth gefnogi'r Brifysgol. Mewn e-bost diweddar iawn, ysgrifennodd Roger “I am getting quite adept at writing obits. Even had Stevie Smith's published in The Times. I suppose it's better to write obits than have one written about oneself. I'm going to draft my own obit for Bangoriad as no one else will”.  Roger, mi wnawn ni.

Roedd Roger yn ddyn teulu ymroddedig ac yn meddwl y byd o'i wraig, Mary (y bu iddo'i chyfarfod tra'r oedd ym Mangor), plant ac wyrion ac wyresau.
Byddwn yn cofio Roger fel gwyddonydd a rheolwr da iawn, ond yn fwy na dim fel dyn teulu gwych a ffrind hollol ddibynadwy a symbylol a oedd yn hwyl fawr bod yn ei gwmni. Rydym ni gyd yn trysori ei fywyd hynod.

Clive Boyce

Ian Arthur Colquhoun

Graddiodd Ian o Fangor yn 1976 (Hanes ac Archaeoleg). Ar ôl gweithio am 25 mlynedd gyda heddlu Northumbria dychwelodd i weithio ym maes archaeoleg. Roedd yn weithgar iawn ym maes archaeoleg gymunedol gan ddysgu ac arwain teithiau yn Northumberland a Co. Durham.

Roedd yn diwtor ac yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Durham pan fu farw. Mae bwrsariaeth Meistr wedi ei chreu yn Durham er cof am Ian ac rydym yn disgwyl clywed cadarnhad y dyfernir PhD ar ôl marwolaeth i Ian mewn Cleddyfau'r Oes Efydd.

Carol Colquhoun

Gwilym Lloyd Edwards

Ar 27 Ebrill, 2014 bu farw Gwilym Lloyd Edwards yn 91 mlwydd oed.    Ganwyd a magwyd ef yn ardal y Bala, Sir Feirionnydd.  Wedi marwolaeth ei rieni rhoddodd y gorau i ffermio a dod i Fangor lle graddiodd gydag Anrhydedd mewn Lladin ym 1954 ac yn y Gymraeg ym 1955.  O’r coleg aeth i’r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth i weithio ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru a bu yno fel golygydd cynorthwyol ac yna is-olygydd nes ei ymddeoliad ddiwedd 1987 pryd y symudodd ef a’i wraig Annie i fyw i Lanuwchllyn, ger y Bala.  Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru ym 1962.

Bu’n cystadlu lawer dros y blynyddoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gasgliadau a chyfieithu, gan ddod yn fuddugol sawl gwaith.  Cyhoeddwyd amryw o’r gweithiau.  Yn 2007 cyhoeddwyd ei hunangofiant “O Lethrau Cefn Gwyn.”  Parhaodd i ymchwilio ac ysgrifennu bron i’r diwedd a chyhoeddwyd ei lyfr olaf “Iaith y Nefoedd” yn 2011.

Moira Farnworth

Dr James Buchanan

Fe wnaeth Jim gyffwrdd pawb gyda'i wên ryfeddol.

Pan oeddwn yn Llywydd Clwb Deifio CPGC daeth ataf yn ystod Wythnos y Glas a dweud ei fod yn astudio Bioleg Môr ac felly yr hoffai ddysgu deifio. Felly, daeth i'r sesiwn gyntaf i bwll nofio Bangor y dydd Llun canlynol.  Roedd yn fyfyriwr hŷn ac nid oedd yn gweld yn dda!  Gofynnodd beth roedd angen iddo ei brynu a dywedais wrtho fod clwb y Brifysgol yn darparu'r rhan fwyaf o bethau a fy mod wedi clywed bod modd cael masgiau ar bresgripsiwn -  a oedd yn help mawr iddo! 

Graddiodd o Fangor mewn Botaneg a Botaneg Môr yn 1972 ac aeth ymlaen i Brifysgol Huntingdon a Stirling i astudio Patholeg Pysgod, lle cafodd ei ddoethuriaeth.  Yna aeth i Napier yng Nghaeredin.  Roedd yn byw o fewn golwg i Gapel Roslin ac roedd yn llongwr medrus gydag iot ar Loch Fyne.  Buom yn gyfeillion oes gan rannu llawer o ddatblygiadau mewn Bioleg Môr.  Bu'n Gadeirydd Scottish Salmon ac yna ffermio lledod Ffrengig (halibut).  Dechreuodd ei yrfa yn y Llynges Frenhinol gan wasanaethu ar sawl mordaith mewn tywydd garw yng Ngogledd yr Iwerydd.

Nid oedd dim yn ormod o drafferth iddo ac roedd yn gwneud i ni chwerthin yn gyson.  Roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych a meddyliai'r byd o'i dair merch.  Colled enfawr.

David McCreadie, Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr

Ieuan W Evans

Ar 21 Mehefin, yn 57 oed, wedi gwaeledd byr, bu farw Ieuan Evans yn ei gartref yn Nhregarth, Bangor. Graddiodd mewn Biocemeg a Sŵoleg Gymhwysol yn 1979. 

Cafodd Ieuan ei fagu ym Mhrestatyn a bu'n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.  Roedd ei ddiweddar dad, Tudor Wilson Evans, yn athro ac awdur adnabyddus yn y Gymraeg.

Cyfarfu Ieuan â'i wraig, Kath, myfyrwraig yn yr adran athroniaeth, yn 1978 ac, ar ôl iddynt raddio, penderfynodd y ddau ymgartrefu'n barhaol yn yr ardal.

Bu Ieuan yn gweithio i Gyngor Sir Gwynedd, yn gyntaf yn is-adran lwybrau'r adran briffyrdd, ac yna ym maes mapio digidol ar ôl iddo ddysgu sgiliau cyfrifiadurol yn ei amser hamdden ac annog yr adran i ddefnyddio technolegau newydd.

Yn 1981 roedd yn un o aelodau sefydlol y Blaid Gymdeithasol Ddemocrataidd (SDP) a chymerodd ran gynyddol yn ei gweithgareddau, gan ddrafftio dogfennau polisi, siarad yng nghynadleddau'r blaid ac ymddangos ar y teledu a siarad ar y radio. Cafodd ei ethol i gynrychioli'r SDP ar Gyngor Bwrdeistref Arfon ac yn Etholiad Cyffredinol 1983 bu'n ymgeisydd seneddol yn Ynys Môn dros y Gynghrair SDP-Rhyddfrydwyr. 

Wrth i ad-drefnu llywodraeth leol agosáu, canolbwyntiodd fwy ar ei yrfa, gan fynd i ddechrau i Lerpwl cyn ymuno â chwmni meddalwedd yn Alderley Edge.  Wrth i gwmnïau gael eu cymryd drosodd ac uno, daeth ymhen tipyn yn rheolwr systemau mewnol i Northgate Information Systems, cwmni rhyngwladol gyda'i brif swyddfa yn Hemel Hempstead.

Fis Rhagfyr 2005, bu ffrwydrad enfawr a thân yn safle storio olew Buncefield y drws nesaf i brif swyddfa Northgate.  Cafodd pob ffenestr yn yr adeilad ei chwythu'n yfflon a difrodwyd y swyddfeydd yn llwyr.   Bu'n gyfnod hynod anodd i Ieuan wrth iddo arwain y gwaith o ailadeiladu systemau'r cwmni.   Roedd y canlyniadau posibl o ran colli data yn enfawr, ac nid dim ond i'r cwmni'n unig. Ymysg y gweinyddion ffeiliau yn yr adeilad a faluriwyd roedd rhai'n gysylltiedig â'r Blaid Lafur yn ogystal â rhwydwaith i ysbytai yn East Anglia.  Un o arbenigeddau'r cwmni oedd rhedeg cyflogresi i sefydliadau eraill.  Roedd yn her eithriadol ac roedd Ieuan yn hynod falch o'r hyn y llwyddodd o a'i dîm i'w gyflawni.  Er i'r trychineb hwn ddigwydd yn Rhagfyr, pan mae cyflogresi'n cael eu paratoi'n gynt nag arfer fel rheol, llwyddwyd i gael cyflogres pob un o gwsmeriaid Northgate yn barod mewn pryd.  Daeth y cwmni'n adnabyddus fel un a oedd wedi llwyddo i ddod dros drychineb mawr i'w offer a'i systemau.

Roedd yn gorfod teithio llawer iawn gyda'i waith, ond Tregarth bob amser oedd ei gartref ac ymddeolodd yn gynnar yn 2010 gan obeithio cael treulio mwy o amser gyda'i ddiddordebau niferus, a oedd yn cynnwys pysgota, garddio, golff, coginio a sgïo.

Roedd gan Ieuan allu anhygoel i ddeall syniadau newydd, cofio gwybodaeth a datrys problemau.  Dros 30 mlynedd ar ôl iddo raddio, roedd yn dal i fedru trafod yn fanwl y gwyddorau a astudiodd.

Kath Evans

Dr Barbara Saunderson

Bydd staff a myfyrwyr presennol yr Ysgol Ieithoedd Modern, yn ogystal â chyn fyfyrwyr a staff, yn sicr o golli'n fawr Dr Barbara Saunderson, cyn ddarlithydd mewn Ffrangeg ym Mangor. Bu farw ar 27 Gorffennaf 2014. 
Bu Barbara'n gyfaill triw a hael i'r Ysgol ac i'r Brifysgol drwy gydol ei chyfnod ym Mangor, ond yn arbennig felly yn ystod y blynyddoedd ar ôl iddi ymddeol.

Ganed Barbara yn Lerpwl yn 1938 ac yno y tyfodd i fyny. Daeth i Fangor i astudio Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, gan raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1959.  Aeth ymlaen i wneud ymchwil ôl-radd ac fe'i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Ffrangeg yn 1964 ym Mangor, lle'r arhosodd hyd ei hymddeoliad yn 2004.  Roedd ei thraethawd PhD yn edrych ar syniadau cymdeithasol a gwleidyddol yng ngweithiau'r gwrth-Encyclopedistes cyn 1770. Hefyd cyhoeddodd erthyglau ar gaethwasiaeth trefedigaethol, Frossard a'r ffordd y caiff y croeshoeliad ei ddarlunio yn y Dadeni Eidalaidd. 

Drwy gydol ei gyrfa ym Mangor ymroddodd Barbara'n ddiflino i gynorthwyo ei myfyrwyr, gan dreulio llawer o amser ac ynni yn rhoi cefnogaeth i rai mewn trafferthion.  Yn arbennig, byddai'n ymweld â'i myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn dramor, er nad oedd unrhyw reidrwydd arni i wneud hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn ymgartrefu'n iawn yn eu sefyllfa newydd. 
Hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol cymerodd Barbara ddiddordeb mawr yn natblygiad cenedlaethau iau o ieithegwyr, a noddodd nifer o wobrau academaidd a roddir i raddedigion Ieithoedd Modern.  Yn wir, dim ond pythefnos cyn ei marwolaeth, daeth Barbara i seremoni'r Ysgol Ieithoedd Modern i gyflwyno gwobrau i raddedigion eleni.  Roedd yn adnabyddus mewn meysydd eraill yn y Brifysgol hefyd, yn arbennig ar sail ei gwaith gofalus a dyfal yn catalogio casgliad celf y Brifysgol. Bu'n gwneud hyn hyd at ei marwolaeth. 

Cefnogodd Barbara nifer fawr o achosion elusennol a gwerth chweil, gan gyfrannu'n hynod hael tuag atynt. Ymysg nifer eraill, roedd y rhain yn cynnwys Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI), plant yn Affrica ac ysgoloriaethau corawl yn Eglwys Gadeiriol Bangor.  Bu'n neilltuol hael tuag at yr RNLI, gan gyllido dau fad achub - yn cynnwys bad achub presennol Llandudno. Cydnabuwyd ei chyfraniad nodedig  ym Mehefin eleni pan gyflwynwyd Medal Aur y sefydliad iddi yng Nghanolfan y Barbican.  

Ar ôl iddi ymddeol byddai Barbara'n ymweld â'r Ysgol Ieithoedd Modern yn rheolaidd ac roedd y cydweithwyr y bu'n gweithio â hwy, yn ogystal â'r rhai a oedd wedi cael swyddi yno ers iddi ymddeol, yn gwerthfawrogi'n fawr ei ffordd bositif o edrych ar fywyd, ei hagosatrwydd a'i synnwyr digrifwch.  Roedd ganddi flwch llythyrau o hyd yn swyddfa Ieithoedd Modern, ac un o'r pethau pwysicaf ynddo oedd bocs lle gallai staff adael stampiau wedi'u defnyddio ac y byddai hi'n eu casglu i godi arian at yr RNLI.

Yn fwy na dim, cofir Barbara am ei natur hael ac anhunanol; mae gan bawb a'i hadnabu stori wahanol i'w dweud am ei hachosion elusennol niferus iawn.  Fe wnaeth Barbara gyffwrdd â bywydau llawer mewn amrywiol ffyrdd a bydd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei cholli'n fawr.