Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

"Anghofiwch y to bach?"

Eisteddfod Genedlaethol

Lleoliad:
Pabell Prifysgol Bangor, Maes yr Eisteddfod, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
Amser:
Dydd Mawrth 8 Awst 2017, 13:00–14:15

Ysgol y Gymraeg

Anghofiwch am acenion” H.y., Rhaid newid rheolau sillafu’r Gymraeg 

Oes angen to bach? Oes angen dyblu ‘n’? Dyma broblemau beunyddiol wrth ysgrifennu Cymraeg, ac mae dadlau ynghylch orgraff y Gymraeg bron yn ddefod i rai ohonom.

Mae tîm rhyngwladol o ieithegwyr wedi bod yn astudio’r cwestiynau hyn, ac ar sail ymchwil empeiraidd hollol newydd maen nhw wedi canfod y rheolau sy’n esbonio sut mae llafariaid yn cael eu hynganu. Yn sgil hyn, medd Sabine Asmus (Prifysgolion Leipzig a Szczecin), rhaid cysoni orgraff y Gymraeg.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, bydd modd gwella’n dealltwriaeth o seiniau’r Gymraeg, ond yn fwy na hynny bydd yn fodd i sicrhau nad yw’r iaith yn newid dan ddylanwad y Saesneg.