‘Charley Bach’ - Gwyn Llewelyn yn sgwrsio â Charles Duff
- Lleoliad:
- Stiwdio
- Amser:
- Dydd Sul 10 Mehefin 2018, 14:30
‘Charley Bach’
Gwyn Llewelyn yn sgwrsio â Charles Duff
Tyfodd Charles Duff i fyny mewn llawer byd gwahanol yr un pryd. Fel enffi lâd, roedd un yn arwain i'r llall, ond eto roedd pob un yn wahanol ac yn hunan-gynhwysol.
Ym mhlasty ei deulu, Y Faenol, roedd aelodau o'r teulu brenhinol yn cymysgu gyda pherthnasau ecsentrig ac wynebau cyfarwydd hudolus. Yn cadw cwmni iddynt roedd cast lliwgar o gogyddion, nanis a bwtleriaid. Yn Llundain, cyfarfu Charley â chariadon gwrywaidd ei dad a rhai lesbiaidd ei fam, yn ogystal ag arlunwyr, cerddorion a chyfarwyddwyr blaenllaw. Trwy'r theatr, darganfu ei swyddogaeth yn y byd academaidd a dysgu.
Ond nid oedd y bydoedd hyn yn cyd-fodoli mewn cytgord. Wrth i'r ystâd wynebu distryw a phriodas ei rieni'n chwalu, roedd perthynas Charley â'i deulu'n chwerwi a madru. Roedd yn hysbys ei fod wedi'i fabwysiadu, a bu dyfalu ynglŷn â'i dras yn fodd i danio sibrydion y mae llawer yn credu ynddynt hyd heddiw.
Mae Charley's Woods, hunangofi ant hynod drawiadol Charles Duff, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn rhoi darlun manwl a gonest o'r cylchoedd rhyfeddol y mae wedi byw ynddynt. Ond yn fwy na dim, mae'n ddisgrifi ad teimladwy o ddatblygiad personol ac ysbrydol mab mabwysiedig ac yn fyfyrdod ar faterion yn ymwneud â dosbarth, diwylliant ac ymholiad am ymdeimlad o berthyn.
Arweinir y sgwrs gan un o ddarlledwyr amlycaf Cymru, Gwyn Llewelyn, a bydd holi ac ateb i ddilyn.
Oed: 16+
Dydd Sul 10 Mehefin
2.30pm
Stiwdio
£12