Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

NT Live: Yerma

Lleoliad:
Sinema, Pontio
Amser:
Dydd Iau 31 Awst 2017, 19:00–22:00
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

NT Live

Yerma (15)

Sinema
Nos Iau 31 Awst, 7.00pm
£12/£10 gostyngiadau

Mae'r anhygoel Billie Piper (Penny Dreadful, Great Britain) yn dychwelyd i'r rhan a roddodd iddi wobr Actores Orau yr Evening Standard. Yng nghynhyrchiad radical Simon Stone o gampwaith pwerus a dolurus Lorca, caiff dynes ifanc ei gwthio i wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i bob amgyffred yn ei hysfa i gael plentyn. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y ffenomen theatraidd hon yn yr Young Vic ac mae'r adolygwyr yn ei galw yn 'extraordinary theatrical triumph’ (The Times) ac yn ‘stunning, searing, unmissable’ (Mail on Sunday). Caiff perfformiad Billie Piper yn y brif ran ei ddisgrifi o fel ‘spellbinding’ (The Evening Standard), ‘astonishing’ (iNews) a ‘devastatingly powerful’ (The Daily Telegraph). Mae'r hanes wedi ei leoli yn Llundain gyfoes ac mae Piper yn portreadu dynes yn ei thridegau sy'n daer eisiau beichiogi. Mae'r hanes yn datblygu gyda grym elfennaidd at uchafbwynt syfrdanol ac ysgytiol.

Sylwer nad oes egwyl yn ystod y darllediad hwn.