Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Rhowch gynnig arni Rhoi iaith ar waith mewn gofal iechyd

Eisteddfod Genedlaethol

Lleoliad:
Pabell Prifysgol Bangor, Maes yr Eisteddfod, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
Amser:
Dydd Iau 10 Awst 2017, 11:00–12:00

Pencampwyr y Gymraeg, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

‘Rhowch gynnig arni!’ Rhoi’r iaith ar waith mewn gofal iechyd 

Bwriad y digwyddiad hwn yw cyflwyno cynnyrch prosiect gan Bencampwyr Cymraeg yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sy’n hyrwyddo gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn gofal iechyd. Dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, aethpwyd ati i hel tystiolaeth ar ffurf storiau digidol a blogiau fideo ynghylch canfyddiadau staff, myfyrwyr, a defnyddwyr gwasanaeth am roi 'cynnig rhagweithiol' o wasanaethau Cymraeg ar gael mewn gofal iechyd, yn unol â pholisiau Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect yw lledaenu gwybodaeth am bwysigrwydd y gwasanaethau hyn a rhannu arfer da ymhlith darparwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Myfyrwyr nyrsio yw’r pencampwyr a chawn glywed sut yr aethant ati i hel y dystiolaeth a chael cip olwg ar y gwaith.

Gwahoddir panel o siaradwyr i drafod arwyddocâd y prosiect a chynlluniau pellach.