Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

9Bach a ‘Llechi'

Pontio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017

Lleoliad:
Ty Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Môn
Amser:
Dydd Mawrth 8 Awst 2017, 13:00–15:00
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

Pontio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017


Yr haf hwn, rydym yn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i ogledd Cymru ac i Ynys Môn. Gan fod un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop ar garreg y drws, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o'r rhaglen ddiwylliannol eleni, gyda digwyddiadau ar y maes, presenoldeb yng Nghaffi'r Theatrau a dau berfformiad arbennig o 'Llechi', sef ffrwyth cydweithio arbennig rhwng perfformwyr lleol a ysbrydolwyd gan thema llechi.

 

Dydd Mawrth 8 Awst, 1pm, Tŷ Gwerin 9Bach a ‘Llechi’

Cyfle arbennig i fynd dan groen ‘Llechi’, y cydgynhyrchiad gan 9Bach a Pontio a gafodd ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Ebrill 2015 fel rhan o raglen agoriadol Pontio. Caiff ei ail-lwyfannu yn ystod cyfnod yr Eisteddfod yn Theatr Bryn Terfel, ar 7 a 9 Awst. Mwynhewch ychydig o ganeuon, a holwch 9Bach a’u cyd-berfformwyr am eu ffordd ffres ac arloesol o archwilio arwyddocâd llechi i genhedlaeth newydd.