Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

A Tiger's Tale

Lleoliad:
Stiwdio, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 7 Ebrill 2018, 11:30

M6 Theatre Company

A Tiger's Tale

Sioe newydd a ysgrifennwyd gan MIKE KENNY
Cyfarwyddwyd gan GILLY BASKEYFIELD
Cerddoriaeth gan JAMES ATHERTON

Mae M6 Theatre (Mavis Sparkle, Whatever the Weather, One Little Word) yn cyflwyno cynhyrchiad rhyfeddol newydd gan y dramodydd Mike Kenny, enillydd sawl gwobr. Wedi'i seilio ar stori anarferol Fenella, Teigr Holmfirth, mae A TIGER'S TALE yn gyfuniad hynod fywiog o syrcas, pypedwaith, cerddoriaeth fyw a chaneuon.

O drên syrcas yn Ne Affrica, i long ager ar yr Iwerydd ac ymlaen i Orllewin Swydd Efrog, mae cwmni teithiol digon di-drefn yn adrodd stori wir anhygoel teulu o acrobatiaid a'r teigr bach a fabwysiadwyd ganddynt. Ymunwch â Titch, Ma a Pa ar eu hantur dros ben llestri i fyd lle mae'r 'holl straeon gorau'n gorffen gyda syrpreis'.

Gweithdy creadigol am ddim gydag Eleri Jones yn dilyn pob sioe

Oed 4+

Hyd y perfformiad: 50 munud

Dydd Sadwrn 7 Ebrill

11.30am a 2.30pm

Stiwdio

£6/£20 tocyn teulu a chyfeillion (4 o bobl, o leiaf un o dan 18)