Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

As a Tiger in the Jungle

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sul 8 Hydref 2017, 14:00–15:00

Theatr Bryn Terfel
Dydd Sul 8 Hydref, 2pm
£10/£8 gostyngiadau

gan Cirkus Xanti (Norwy) a Chynyrchiadau Ali Williams (Cymru) 

Bydd y tri pherfformiwr o Asia yn gofyn cwestiynau am fywyd, cariad, tlodi a thrachwant. Gan ddefnyddio geiriau, symudiadau, syrcas a seremoni, byddant yn adrodd yr hanes am sut y gwnaethant oroesi eu plentyndod er gwaetha amgylchiadau anodd a llwyddo i greu eu tynged eu hunain. Mae hwn yn berfformiad ysbrydoledig, diffuant, amrwd a thwymgalon am fywyd a'r syrcas, adloniant a myfyrio.

Cynhyrchwyd drwy bartneriaeth ryngwladol rhwng cyfarwyddwyr artistig o ddau gwmni syrcas enwog yn Ewrop. Bydd As a Tiger in the Jungle yn brofiad syrcas theatrig unigryw!

CastRenu Ghalan (Nepal), Aman Tamang (Nepal), Loan TP Hoang (Fietnam/Norwy)

Crëwyr: Cyfarwyddwr/Awdur: Sverre Waage (Norwy), Cynhyrchydd Creadigol: Ali Williams (Cymru), Cynorthwyydd coreograffi: Hannah Mjaavatn (Ynysoedd y Philipinau/Norwy)

Cyfansoddwr/Cerddoriaeth: Per Zanussi (Norwy/Yr Eidal), Dylunio: Rhi Matthews (Cymru) a Tarn Aitken (Lloegr). Cerddorion (dim cerddoriaeth fyw): Per Zanussi, Harpreet Bansal (India/Norwy), Sanskriti Shrestha (Nepal/Norwy)

Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Norwy, Ffuk, Spenn, DTS/FD/Stikk,
Cefnogwyd gan nofitstate, Pontio, Baerum Kulturhus, PIT, Black-E, Chora Chori Nepal

Canllaw oed: 12+