Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Ballet Cymru: Triple Bill

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Gwener 29 Tachwedd 2019, 19:30–21:30

Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill y Critics' Circle Award, yn cyflwyno tri gwaith newydd eithriadol, sy'n cynnwys rhai o'r artistiaid benywaidd mwyaf cyffrous sy'n gweithio ym myd dawns.

Mae Charlotte Edmonds, a ddechreuodd fel coreograffydd ifanc gyda'r Royal Ballet, yn cyflwyno gwaith newydd sbon o'r enw Wired to the Moon gyda gwisgoedd a setiau trawiadol gan y dylunydd o Fryste, Eleanor Bull a sgôr newydd gan y cyfansoddwr o Los Angeles, Katya Richardson. 

Patricia Vallis yw coreograffydd Divided We Stand, a berfformir i gerddoriaeth wefreiddiol Purcel. Ysgogwyd y gwaith hwn gan y rhaniadau a welir yn ein cymdeithas o ran barn wleidyddol, gender a chrefydd.

Mae Celtic Concerto yn deyrnged gan Ballet Cymru i'r telynor, cyfansoddwr a noddwr y cwmni, Catrin Finch. Mae ei cherddoriaeth hudolus wedi ei chydblethu â symudiad syfrdanol a grëwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty. 

Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i fwynhau rhai o'r dawnsiau gorau yng Nghymru, ac a wnaed yng Nghymru.