Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Bardd

Lleoliad:
Stiwdio
Amser:
Dydd Sadwrn 30 Mehefin 2018, 19:30

Bardd

 

Yn newydd sbon yn 2018, Bardd ydi'r sioe ddiweddaraf gan yr hip-hopwyr o fri Martin Daws (Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16) ac Ed Holden/Mr Phormula (Pencampwr Lwpio Cymru 2016). Gan dynnu ar y gorau o'n traddodiad llafar, o'i wreiddiau yn y Cynfeirdd hyd at y gair llafar cyfoes ac Emsîo, dyma berfformiad meistrolgar, telynegol, unigryw a dwyieithog. Mae Bardd yn sylfaenu eu sŵn unigryw ar batrymau telynaidd Kalimba Martin ac athrylith dechnegol Ed fel beatbox dynol a lwpiwr byw. Mae'r sioe yn mynd rhagddi i ehangu ar yr arlwy gerddorol gyda chyfeiliant rhai o gerddorion gorau Gogledd Cymru, gan gynnwys Neil Yates (Trymped), Henry Horrell (Gitâr/Llinynnau), Colin Daimond (Offer Taro) a Huw Llywelyn, Arbenigwr Llais. 

 

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i ddatblygu ar y cyd gyda Pontio, dyma sioe gyntaf Bardd: cyfuniad Hip Hop gwreiddiol, telynegol, diledryw a rhyngwladol Gogledd Cymru.


Sesiwn gerddorol anffurfiol ym Mar Ffynnon i ddilyn.

 

Nos Sadwrn 30 Mehefin

7.30pm

Stiwdio

£5