Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Blwyddyn Newydd yn Fienna

Lleoliad:
Neuadd Prichard-Jones
Amser:
Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2018, 19:30–21:30

Cerddorfa WNO

Blwyddyn Newydd yn Fienna

Nos Sadwrn, 6 Ionawr, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones
£18.50/£17.50 gostyngiadau / £7.50 myfyrwyr* yn cynnwys gwydraid o Prosecco *bydd angen cerdyn adnabod 
£16.00/£15.00 gostyngiadau / £5.00 myfyrwyr heb wydraid o Prosecco 

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru
Cyflwynir a chyfarwyddir gan David Adams ar y Ffidil
Unawdydd Corn: Angus West 


Yn dilyn llwyddiant y cyngerdd hwn yn 2017 mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor gan barhau gyda’r berthynas bwysig â chanolfan Pontio. Neuadd Prichard-Jones yw’r lleoliad ar gyfer y Cyngerdd Calan Traddodiadol eleni. Unwaith eto, byddwn yn gadael yr arweinydd ar ôl a bydd y cerddorion a’r gynulleidfa yn dod ynghyd dan arweiniad David Adams, meistr cyngerdd y Gerddorfa.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys un o weithiau enwocaf Mozart, Concerto Rhif 4 i’r Corn. Ynghyd â’r gerddoriaeth arbennig hon bydd Neuadd ‘PJ’ yn cael ei llenwi gan sain rhai o’r waltsiau a’r polcas enwocaf o neuaddau dawns Fienna.

Bydd y gwaith agoriadol, sef yr agorawd hyfryd i Der Freischutz gan Weber, yn ddechreuad gwych i’r noson. Yn ystod yr ail-hanner cawn ein swyno gan ein hoff waltsiau fel Wine, Women and Song, The Blue Danube a Gold and Silver ynghyd â’r polcas Tritsch-Tratsch, Thunder and Lightning a Champagne a Radetsky March, a rhai gweithiau llai cyfarwydd.

Fel arfer mae’r cyfan yn sicr o godi calon ar ddiwedd tymor y Nadolig…a gallwch ddisgwyl ambell sypreis yn ystod yr egwyl!