Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

Côr y Penrhyn

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2017, 19:30–21:30

Côr y Penrhyn

a Gwawr Edwards

Nos Sadwrn, 2 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12

Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Arwel Davies
Cyfeilydd: Francis Davies
Arweinydd Cynorthwyol: Caleb Rhys Jones

Mae gwreiddiau Côr y Penrhyn ym mhentref chwarelyddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen. Gall y côr olrhain ei wreiddiau yn ôl i'r 1880au pan ffurfiwyd côr unedig gan nifer o grwpiau llai oedd yn bod ar y gwahanol bonciau yn Chwarel y Penrhyn. Côr y Penrhyn yw un o’r corau prysuraf yng Nghymru gyda thua 30 o gyngherddau bob blwyddyn, ac mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gyda cherddorion, dawnswyr ac artistiaid eraill.

Astudiodd Gwawr Edwards yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a'r Guildhall yn Llundain, lle graddiodd â gradd dosbarth cyntaf. Rhyddhaodd ei hail albwm ‘Alleluia’ yn ddiweddar, sy’n cynnwys Only Men Aloud, band jazz Rhys Taylor, y fezzosoprano Caryl Hughes a Chôr Ieuenctid Môn.

Yn ddiweddar mae wedi chwarae rhan Mair yng nghynhyrchiad OPRA Cymru o Wythnos yng Nghymru Fydd ac wedi teithio ledled Prydain gyda Syr Bryn Terfel, gan berfformio yn neuadd Symffoni Birmingham, Festival Hall Llundain, neuadd Bridgewater Manceinion a neuadd Dewi Sant Caerdydd i gyfeiliant Cerddorfa