Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Cael mynediad at destun llawn erthyglau mewn cyfnodolion - ategion porwyr, Shibboleth, a benthyciadau rhwng llyfrgelloedd

Lleoliad:
CR2
Amser:
Dydd Iau 26 Mawrth 2020, 12:30–13:00
Cyflwynydd:
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Cyswllt:
Beth Hall

Trosolwg o'r Cwrs: Mae cael mynediad at destun llawn y cyhoeddiad rydych chi am ei ddarllen yn aml yn golygu llawer o glicio, mewngofnodi a chael eich ailgyfeirio.  Ymunwch â ni i drafod offer newydd a chyfoes a all arbed amser i chi, a'ch cyrchu at yr erthygl rydych eisiau ei darllen mewn un clic.

 

Nod y cwrs: Cyflwyniad i dechnegau i arbed amser wrth gael mynediad at destun llawn yr erthyglau rydych eisiau eu darllen

Os hoffech fynychu'r sesiwn hon o bell, nodwch fod hyn yn y blwch “Gofynion arbennig” isod. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cynnig hwn trwy Skype ar gyfer Busnes a / neu Panopto.