Mai 2018

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Catrin Finch a Seckou Keita (Cymru/Senegal) gyda Gwyneth Glyn

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel
Amser:
Dydd Iau 17 Mai 2018, 19:30

Theatr Mwldan yn cyflwyno

 

Catrin Finch a Seckou Keita (Cymru/Senegal) gyda Gwyneth Glyn 

 

Mae’r cydweithrediad aruthrol hwn, sy’n fawr ei glod gan y beirniaid, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri, rhwng dau berfformiwr penigamp - y delynores Gymreig Catrin Finch a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita - yn arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth o’r radd flaenaf.

 

Bydd Gwyneth Glyn yn ymuno i gefnogi Catrin a Seckou yma yn Pontio. Yn fardd, awdures a chantores, daw Gwyneth o Gricieth yn Eifionydd. Bydd yn perfformio caneuon o'i halbym newydd 'Tro'.


Gan dynnu’n ddwfn ar eu traddodiadau amrywiol eu hunain a’u trawsffurfi o gyda synergedd hynod, mae Catrin a Seckou wedi adeiladu enw da heb ei ail am eu perfformiadau rhyfeddol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, bydd eu hail albwm SOAR, y bu aros mawr amdano, yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2018. Mae’r albwm yn troi o gwmpas adenydd gwalch y pysgod, yr aderyn ysglyfaethus godidog a ddychwelwyd i Gymru’n ddiweddar yn dilyn absenoldeb o ganrifoedd, sy’n gwneud ei daith flynyddol o 3000 milltir o arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru, gan hedfan dros rwystrau o waith dyn, yn yr un modd ag y bydd cerddoriaeth a breuddwydion yn gwneud, mewn siwrnai gynhenid ac epig o wytnwch.

 

Yn gyfareddol, yn fesmereiddiol, yn gywrain ac yn etheraidd, dyma i chi gerddoriaeth nodedig a phrofi ad byw gwefreiddiol.


Nos Iau 17 Mai

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

 £20/£18