Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

CCUSA - Camp Counsellors USA

CM200

Lleoliad:
Prif Adeilad y Celfyddydau D3
Amser:
Dydd Iau 5 Hydref 2017, 13:00–14:00
Cyflwynydd:
CCUSA
Cyswllt:
GGC
Mwy o wybodaeth:
https://www.eventbrite.co.uk/e/ccusa-camp-counsellors-usa-tickets-37874888812

Hoffech chi dreulio'r haf nesaf yn gweithio mewn gwersyll haf i blant yn America gyda CCUSA? Cewch wrando ar gynghorwyr profiadol o wersylloedd yn siarad am y profiad o dreulio eich haf yn dysgu eich hoff chwaraeon, celfyddydau perfformio neu weithgareddau eraill i gannoedd o blant brwdfrydig, cyn cael cyfle i deithio o amgylch y wlad gyda'ch ffrindiau newydd.  Fe gewch yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen, gwylio fideos a chael tipyn o straeon o'r gwersylloedd ynghylch sut y gellwch dreulio haf bythgofiadwy gyda phobl ryfeddol o bob rhan o'r byd, gan gael profiad gwaith gwerthfawr yr un pryd.  Yn syml iawn, hwn fydd haf gorau eich bywyd! Gobeithio’ch gweld chi yno.

Mae rhaid archebu lle ar gyfer y gweithy hwn: https://www.eventbrite.co.uk/e/ccusa-camp-counsellors-usa-tickets-37874888812