Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Lleoliad:
Neuadd Prichard-Jones
Amser:
Dydd Sul 3 Rhagfyr 2017, 19:30–21:30

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor


Nos Sul, 3 Rhagfyr, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones
£12/£10 dros 60 /£5 myfyrwyr a dan 18 oed

Corws Prifysgol Bangor 
Iwan Llewelyn-Jones (piano)
Chris Collins (arweinydd)

Poulenc Gloria
Ravel Concerto Piano i’r Llaw Chwith
Mussorgsky/Ravel Pictures at an Exhibition

Noson o gerddoriaeth ysblennydd gyda cherddorfa symffoni hynaf gogleddorllewin Cymru, ynghyd â Chorws Prifysgol Bangor a'r pianydd Iwan Llewelyn- Jones, sy’n wreiddiol o’r ardal a bellach wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Ysgrifennodd Ravel ei Goncerto Piano i'r Llaw Chwith yn 1932 ar gyfer y pianydd o Awstria, Paul Wittgenstein, a gollodd ei fraich dde yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: mae ei daith o dywyllwch i oleuni yn dwyn i gof ysbryd yr oes a thaith bersonol Wittgenstein ei hun.

Mae'r cyngerdd yn agor gyda gwaith cyffrous a swynol Poulenc ar gyfer côr a cherddorfa, Gloria, ac yn cloi gydag un o'r gweithiau mwyaf adnabyddus yn y repertoire: Pictures at an Exhibition, darn dyfeisgar Mussorgsky sy’n seiliedig ar baentiadau a dyluniadau'r artist Rwsiaidd, Viktor Hartmann, ac sydd hyd yn oed yn fwy lliwgar ac ysblennydd gyda chyfraniad offeryniaeth Ravel.