Mai 2018

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Chwarae gan Elgan Rhys

Lleoliad:
Stiwdio
Amser:
Dydd Sadwrn 19 Mai 2018, 11:30

Theatr Iolo a Pontio yn cyflwyno

 

Chwarae gan Elgan Rhys 

 

Pa deganau, pa gemau, a rheolau pwy?

 

Dewch draw i gael cipolwg ar ddarn o theatr newydd sy'n cael ei ddatblygu'n gydweithredol gyda theuluoedd ac artistiaid proffesiynol ar gyfer plant 4 - 6 oed a'u hoedolion.Mae'r artist Elgan Rhys wedi bod yn archwilio pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac oedolion ac mae'r gwaith-ar-y-gweill yma'n dathlu cymhlethdodau'r sut, ble, pam, gyda phwy a'r beth yw chwarae yn ein byd hynod brysur…

 

Yn dilyn y dangosiad bydd gweithdy  llawn dychmyg a llawn hwyl i'r holl deulu ei fwynhau.

 

Mae Chwarae yn rhan o raglen Platfform gan Theatr Iolo sy’n cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg  i ddatblygu theatr a digwyddiadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, mewn partneriaeth â chanolfannau celfyddydol a theatrau.

 

Mae Platfform yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a sefydliad Esmée Fairbairn.

 

Dydd Sadwrn 19 Mai

11.30am a 2.30pm

Stiwdio

£2 gan gynnwys lluniaeth ysgafn