Gorffennaf 2017

SuLlMaMeIGSa
1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031

Circolombia: Acelere

Gwledd Syrcas Feast

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2017, 19:00–20:15
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

Circolombia: Acelere

Theatr Bryn Terfel
£15/£10 gostyngiadau (10% i ffwrdd gyda’r cod arbennig ACELERE10 i grwpiau o 5 neu fwy)
Nos Wener 21 Gorffennaf, 6pm a 8.30pm
Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf, 2pm a 7pm
Dydd Sul 23 Gorffennaf, 2pm a 7pm

 

An adrenalin-fuelled mix of strength,
skill and daring – a great night out
" Time Out

Non-stop circus party that puts a smile
on your face and a spring in your step
" The Stage

Yn Roundhouse Llundain cafwyd perfformiad ysgubol gan Circolombia o'u sioe gyntaf Urban a'u cynhyrchiad diweddaraf, Acelere. Mae Pontio’n falch iawn o ddod â Circolombia i Gymru am y tro cyntaf dros yr haf.

Nid cwmni syrcas cyffredin mo hwn. Mae grym noeth y perfformwyr, ynghyd â'u sgiliau rhyfeddol a'u parodrwydd i gymryd risgiau arswydus ar y llwyfan ac i herio grym disgyrchiant yn arwain at berfformiadau eithriadol na fyddwch byth yn eu hanghofi o.  

Ysbrydolwyd Acelere gan gymunedau amrywiol Colombia ac mae ynddi 13 o berfformwyr mwyaf talentog Colombia, sy'n cymysgu perfformiadau syrcas syfrdanol gyda dawns a thrac sain gwreiddiol.

Mae'r rhan fwyaf o'r artistiaid wedi eu hyfforddi ac wedi graddio yn ysgol genedlaethol Circo Para Todos ("Circus for All"). Hon yw’r ysgol syrcas broffesiynol gyntaf yn y byd, ac mae wedi ymrwymo i roi pŵer i blant a phobl ifanc lwyddo er gwaethaf unrhyw rwystrau.

Mae rhai o'r perfformwyr syrcas uchaf eu parch yn y byd yn aelodau o'r cwmni ifanc hwn. Maent wedi bod ar daith anhygoel i fod yn rhan o gwmni sydd hyd yn oed yn fwy anhygoel.

Mae'r sioe hon yn wych ar gyfer teuluoedd. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried dod â phlant ifanc, dylech fod yn ymwybodol y bydd cerddoriaeth uchel trwy gydol y sioe.

60 munud heb egwyl.