Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Colorama | Plu | Bendith

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 14 Ebrill 2018, 20:00

Pontio yn cyflwyno

COLORAMA | PLU | BENDITH


Mae Colorama, sef Carwyn Ellis - canwr ac awdur caneuon, cynhyrchydd cerddoriaeth a chwaraewr sawl offeryn a’i fand - yn dychwelyd i Fangor gyda gwesteion arbennig, sef Plu.

Ffurfiwyd Plu - sef y ddwy chwaer Elan a Marged a'u brawd Gwilym Rhys - yn haf 2012. Maent yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth bop a gwerin Gymraeg, gyda harmonïau clos tair rhan yn asgwrn cefn i'w set amrywiol. Fe wnaeth harmonïau'r triawd o Fethel gryn argraff ar Carwyn Ellis o Colorama a phenderfynodd ofyn i Elan, Marged a Gwilym Rhys gydweithio ag ef ar albwm o gerddoriaeth wreiddiol a pherfformio dan yr enw Bendith. Mae'r caneuon ar yr albwm wedi'u hysbrydoli gan wreiddiau - yr ymdeimlad o le, teulu a chartref - gyda'r rhan fwyaf o'r caneuon wedi eu seilio ar ran arbennig o Sir Gaerfyrddin sy'n agos at galon Carwyn ac wedi eu henwi ar ei hôl.

Cyfle prin i weld y cyfuniad hudolus yma o artistiaid talentog yn perfformio.

Gig eistedd.

Nos Sadwrn 14 Ebrill

8pm

Theatr Bryn Terfel

£14/£12 myfyrwyr a dan 18