Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Crwsibl Cymru 2018: sioeau teithiol

Lleoliad:
Greek Room, Main Arts.
Amser:
Dydd Mercher 17 Ionawr 2018, 13:00–14:00
Cyswllt:
Doctoral School
01248 382357

 

 

 

 

 

Crwsibl Cymru yn gwahodd ceisiadau ym mis Ionawr 2018 

Beth yw Crwsibl Cymru?

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen uchel ei pharch a llwyddiannus sy'n cynnig datblygiad proffesiynol a sgiliau arwain i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Yn 2018, byddwn ni'n dewis 30 o ymchwilwyr eithriadol o bob cwr o Gymru i gydweithio i weld sut gallant fynd i’r afael â’r heriau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd, ac yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd y lefel nesaf yn eu gyrfaoedd ymchwil. Bydd Crwsibl Cymru eich helpu i greu rhwydweithiau, cydweithio a gwella eich proffil proffesiynol.

Dyddiadau i'w nodi:

Cynhelir Crwsibl Cymru 2018 yn ystod tri digwyddiad preswyl dau ddiwrnod o hyd. Bydd angen i'r ymgeiswyr fod mewn sefyllfa i ymrwymo i fod ar gael ar y 6 diwrnod.

  • 24 - 25 Mai 2018 yng Nghaerdydd
  • 21 - 22 Mehefin 2018 ym Mangor
  • 19 - 20 Gorffennaf 2018 yn Abertawe

Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus eu had-dalu am dreuliau'r rhaglen.

Ydw i'n gymwys i wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr rhagorol o unrhyw ddisgyblaeth sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa, ac sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (neu brofiad cyfatebol os nad yw hynny mewn sefydliad addysg uwch). Dylai ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru, ac yn gweithio naill ai mewn Prifysgol yng Nghymru neu ym maes ymchwil a datblygu mewn busnes, diwydiant, neu yn y sector cyhoeddus/trydydd sector.  Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos 16 Chwefror 2018.

Welsh Crucible 2018 : roadshows

Rydym yn cynnig y sioeau teithiol canlynol i staff sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer Crwsibl Cymru 2018:

Dydd Llun 22 Ionawr: rhwng 10 ac 11am yn Narlithfa 1, Prif Adeilad y Celfyddydau.

Archebwch yma os gwelwch yn dda:

https://www.bangor.ac.uk/doctoral-school/workshops/rhaglen/welsh-crucible-2018-roadshow-35017

Dydd Mercher 17 Ionawr : rhwng 1 a 2pm yng Greek Room, Prif Adeilad y Celfyddydau.

Archebwch yma os gwelwch yn dda:

Bwcio lle