Crwsibl Cymru 2019: sioeau teithiol

Lleoliad:
Main University Building, Cledwyn Conference Room 3 (TCR3)
Amser:
Dydd Mercher 6 Chwefror 2019, 12:00–13:00
Cyflwynydd:
Penny Dowdney
Cyswllt:
Penny Dowdney
01248 382266

 

 

 

 

Crwsibl Cymru yn gwahodd ceisiadau ym mis Ionawr 2019

Beth yw Crwsibl Cymru?

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen uchel ei pharch a llwyddiannus sy'n cynnig datblygiad proffesiynol a sgiliau arwain i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Yn 2019, byddwn ni'n dewis 30 o ymchwilwyr eithriadol o bob cwr o Gymru i gydweithio i weld sut gallant fynd i’r afael â’r heriau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd, ac yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd y lefel nesaf yn eu gyrfaoedd ymchwil. Bydd Crwsibl Cymru eich helpu i greu rhwydweithiau, cydweithio a gwella eich proffil proffesiynol. Rwyf wedi atodi taflen sy'n rhoi rhagor o wybodaeth.

Dyddiadau i'w nodi:

Cynhelir Crwsibl Cymru 2019 yn ystod tri digwyddiad preswyl dau ddiwrnod o hyd. Bydd angen i'r ymgeiswyr fod mewn sefyllfa i ymrwymo i fod ar gael ar y 6 diwrnod.

·         23 - 24 Mai 2019 yng Nghaerdydd

·         20 - 21 Mehefin 2019 ym Aberystwyth

·         18 - 19 Gorffennaf 2019 yn Abertawe

Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus eu had-dalu am dreuliau'r rhaglen.

Ydw i'n gymwys i wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr rhagorol o unrhyw ddisgyblaeth sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa, ac sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (neu brofiad cyfatebol os nad yw hynny mewn sefydliad addysg uwch). Dylai ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru, ac yn gweithio naill ai mewn Prifysgol bartner neu ym maes ymchwil a datblygu mewn busnes/diwydiant, neu yn y sector cyhoeddus/trydydd sector.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos 15 Chwefror 2019.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i'n gwefan www.welshcrucible.org.uk/cymraeg/ neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol yn p.j.dowdney@bangor.ac.uk.  Dilynwch ni ar Twitter (@welshcrucible) i gael y newyddion diweddaraf, a chofiwch wylio ein fideo Crwsibl Cymru https://youtu.be/hkIW1Le7R5w.

Welsh Crucible 2018 : roadshows

Rydym yn cynnig y sioeau teithiol canlynol i staff sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer Crwsibl Cymru 2019:

6 Chwefror 2019: 

Archebwch yma os gwelwch yn dda:

Bwcio lle