Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

Culhwch ac Olwen

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2017, 10:00–12:45

Cwmni Mega yn cyflwyno’r sioe bantomeim

Culhwch ac Olwen

gan Huw Garmon
Theatr Bryn Terfel
Llun 11 (12.45pm), Mawrth 12 (10am + 12.45pm) a Mercher 13 (10am + 12.45pm) Rhagfyr, 2017
£10 safonol, £8 dros 60, dan 18 a myfyrwyr

Mae hanes “Y Twrch Trwyth” yn enwog trwy Gymru. Dyma’r Baedd mwyaf yn y byd, ddaeth i Gymru amser maith yn ôl a chreu anrhefn. Ond yn ôl y chwedlau tywysog wedi ei rithio neu ei droi yn anifail oedd y Twrch Trwyth, felly peidwich a synnu os bydd twrch trwyth ein sioe ni yn llawn swyn a hud a lledrith!

Cewch glywed hanes Culhwch, heliwr gorau Cymru, ac Olwen, y ferch oedd mor hardd nes bod blodau’r dydd yn tyfu lle bynnag roedd hi’n cerdded. Ond fel pob stori dda, mae yma gymeriadau i godi ofn arnoch – Ysbyddaden Bencawr, y cawr ffyrnig a Chas, y wrach ddrwg.

Tybed a fydd Culhwch yn llwyddo i ddal y Twrch Trwyth? Tybed a fydd Culhwch ac Olwen yn syrthio mewn cariad? Neu a fydd Cas yn llwyddo i ddifetha hwyl pawb? A beth am Ysbaddaden Bencawr? Efallai bod rhyw ffordd o’i drechu wedi’r cwbl!

Gan ddilyn traddodiad Cwmni Mega mae’r sioe yn defnyddio cerddoriaeth byw, dawnswyr proffesiynol a chriw o actorion eiddgar i ddiddanu’r gynulleidfa a chyflwyno talp o ddiwylliant Cymraeg yr un pryd!