Gorffennaf 2019

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Cyfarfod Rhwydwaith ECR - Athena SWAN

Lleoliad:
Alun 1.06 (Canolfan Rheolaeth)
Amser:
Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2019, 12:00–14:00
Cyswllt:
Alison Wiggett
01248 388376

Trosolwg o'r sesiwn

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhywiol Athena SWAN ac mae gennym wobr Efydd i gydnabod ein gwaith tuag at sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hymgorffori ym mholisïau, arferion, cynlluniau gweithredu a diwylliant y Brifysgol.

Yn ddiweddar ymunodd Dr Emily Holmes â Grŵp Tasg Athena SWAN y Brifysgol fel aelod o staff ymchwil contract er mwyn sicrhau bod barn y grŵp hwn o staff yn cael ei chynrychioli ar y grŵp.

Bydd y cyfarfod rhwydwaith ECR hwn yn gyfarfod anffurfiol i roi cyfle i'r gymuned ECR / CRS gyfarfod â Dr Emily Holmes ac i ddysgu ychydig mwy am Athena SWAN. Bydd cyfle i rannu eich barn ar feysydd siarter Athena SWAN (ar lefel Prifysgol ac Ysgol) sy'n arbennig o berthnasol i ECRs / CRS (ee contractau cyfnod penodol, cefnogaeth ar gyfer datblygu gyrfa ar gamau cynnar gyrfa, mentora, cefnogaeth yn ystod absenoldeb mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu ac ati).

Cofiwch fod croeso i BAWB (NID yw hwn yn gyfarfod i fenywod yn unig!)

Darperir te a bisgedi. Ymunwch â ni - byddai'ch cyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

  

    

 

Bwcio lle