Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Cyflwyniad i Flasu Gwin

Lleoliad:
Venue details are sent via calendar after booking
Amser:
Dydd Gwener 26 Ionawr 2018, 19:00–21:00
Cyflwynydd:
Doctoral School
Cyswllt:
Doctoral School
01248 382357

Ydych chi erioed wedi edrych ar restr gwinoedd heb syniad beth i’w ddewis? Ydych chi wedi bod eisiau prynu potel o win dda mewn archfarchnad ond ddim yn siŵr lle i ddechrau?

...neu ydych chi’n chwilio am gyfle i gymdeithasu ag Ymchwilwyr Ôl-radd eraill yn y Brifysgol?

Wel, mae’r amser wedi dod!

Mae WINE@Bangor yn gymdeithas newydd, gyda chefnogaeth yr Ysgol Ddoethurol, sydd wedi'i sefydlu ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-radd yn unig i ddysgu am win a'i fwynhau.

Byddwch yn dysgu sut mae blasu gwinoedd, ffordd hawdd o farcio gwinoedd ac, wrth gwrs, yn cael samplo naw o winoedd wrth ddod i adnabod y myfyrwyr ôl-radd eraill.

Ein digwyddiad cyntaf fydd Cyflwyniad i Flasu Gwin, dan arweiniad Malcolm Smith, sydd â 25 mlynedd o brofiad o redeg cymdeithas blasu gwin yng nghanol Llundain.

Felly os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am winoedd a’u mwynhau mewn awyrgylch hamddenol, dewch draw i weld a oes rhywbeth at eich dant!

Digwyddiad cyntaf:

  • Dydd Gwener 26ain Ionawr, 7pm
  • yn y Ganolfan Reolaeth
  • £8 y pen
  • Cyflwyniad i Flasu Gwin

I gadw eich lle, archebwch yma:

Bwcio lle