Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru
Cynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Cymreig 2018 (NAASWCH)
- Lleoliad:
- Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
- Amser:
- Dydd Mercher 25 Gorffennaf 2018 – Dydd Gwener 27 Gorffennaf 2018
- Mwy o wybodaeth:
- http://www.naaswch.org/index.php.en
Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymr
25, 26, 27 Gorffennaf, 2018
NAASWCH
Cymdeithas amlddisgyblaethol o academyddion, athrawon ac unigolion sy'n ymroddedig i ddatblygu'r ysgolheictod ar astudiaethau Cymreig, i gefnogi'r astudiaeth o ddiwylliant Cymreig-Americanaidd ac i feithrin clymau rhyngwladol rhwng academyddion, athrawon a'r gymuned o Gymry-America yw NAASWCH.
I'r pwrpas hwn mae NAASWCH yn cynnal cynhadledd eilflynyddol lle bydd ysgolheigion yn y meysydd hanes, llenyddiaeth, iaith a'r celfyddydau yn cyflwyno a thrafod ffrwyth eu hymchwil.
I gael eich diweddaru ynghylch y Gynhadledd a gweithgareddau eraill gan NAASWCH plîs ymunwch â’n grŵp Facebook a tanysgrifiwch i'r grŵp Welsh Studies ar JISC Mail: WELSHSTUDIES
Rydym hefyd yn diweddaru rhestr cysylltiadau NAASWCH, ac i gael ei ychwanegu at hwn e-bostiwch Ysgrifennydd-Drysorydd NAASWCH, Dr Melinda Gray: mgray@post.harvard.edu