Gorffennaf 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Cyngerdd Cofio’r Canmlwyddiant gyda Band y Gwarchodlu Cymreig a Chôr Merched RAF Y Fali

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel
Amser:
Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2018, 19:30

Cyngerdd Cofio’r Canmlwyddiant gyda Band y Gwarchodlu Cymreig a Chôr Merched RAF Y Fali 

 

Cyngerdd i godi arian at SSAFA – elusen y lluoedd arfog

 

Sefydlwyd Band y Gwarchodlu Cymreig yn 1915. Hwn yw’r ieuengaf o bum band Catrodau Troedfilwyr y Gosgorddlu Brenhinol.

 

CANGEN YNYS MÔN O SSAFA – ELUSEN Y LLUOEDD ARFOG

 

Mae SSAFA yn rhoi cefnogaeth gydol oes i rai sy’n rhan o’r Fyddin  Brydeinig, y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwasanaethu ynddynt yn y gorffennol, ac i’w teuluoedd. Mae SSAFA yn cynnig cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol mewn gwahanol sefyllfaoedd, a hynny drwy rwydwaith o wirfoddolwyr hyfforddedig. Gall aelodau o’r Llynges Fasnachol a’u dibynyddion hefyd fanteisio ar y cymorth hwn.

 

Gall rhai sydd ond wedi gwasanaethu’n gyfl ogedig yn y lluoedd arfog am un diwrnod yn unig gael cefnogaeth gydol oes gan yr elusen. Mae rhai sydd wedi gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol a’u dibynyddion hefyd yn gymwys i gael cefnogaeth y SSAFA.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Kathryn E Eastment, Ysgrifennydd Anrhydeddus cangenYnys Môn yr SSAFA ar 01407 861171 neu e-bostiwch Anglesey@ssafa.org.uk


Nos Wener 13 Gorffennaf

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£16/£14 o dan 18