Gorffennaf 2017

SuLlMaMeIGSa
1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031

Degawd o darfu: datblygiad, twf a dyfodol gwleidyddiaeth newydd o'r chwith

Darlith gyhoeddus WISERD gan Hilary Wainwright

Lleoliad:
Pontio
Amser:
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017, 17:15–19:00

Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017
Canolfan Celfyddydau Pontio, Prifysgol Bangor
5:15-7pm Gan gynnwys derbyniad rhwydweithio

Yn y ddarlith gyhoeddus rad ac am ddim hon, bydd Hilary Wainwright, Cyd-olygydd Red Pepper yn archwilio'r syniad bod y degawd presennol o darfu wedi tarddu o aflonyddwch y 1960au a'r 1970au, a wnaeth arwain at ddealltwriaeth newydd o rym a gwleidyddiaeth newydd.

Mae’r wleidyddiaeth newydd hon yn deillio o radicaliaeth y gorffennol lle gwelwyd awdurdod a hierarchiaeth yn cael eu herio. Mae trefn newydd yn dod i’r amlwg hefyd mewn sawl maes, gan gynnwys o ran bwyd, trafnidiaeth, democratiaeth a’r cysylltiadau rhwng dynion a menywod. Yng Ngwlad Groeg, Sbaen a’r DU, mae pobl wedi canfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r system wleidyddol. Bydd Hilary Wainwright yn gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch dyfodol y wleidyddiaeth newydd hon o safbwynt y chwith.

Mae Hilary Wainwright yn ymchwilydd blaenllaw ac yn awdur am y ffurfiau newydd o atebolrwydd democrataidd sydd wedi dod i’r amlwg mewn pleidiau gwleidyddol, mudiadau a’r wladwriaeth. Mae’n un o olygwyr sefydlol Red Pepper ac erbyn hyn yn gyd-olygydd y cylchgrawn. Mae wedi ysgrifennu am sawl enghraifft o fudiadau democrataidd ar dwf o Frasil i Brydain, a’r gwersi i’w dysgu ganddynt ar gyfer gwleidyddiaeth flaengar.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim a bydd derbyniad diodydd ar ôl y ddarlith. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/public-talk-a-decade-of-disruption-the-incubation-emergence-and-future-of-a-new-politics-from-the-tickets-32819046652